Y Gynhadledd Profiad o Ofal
- Ian Dickson
- Feb 9, 2019
- 3 min read

Bydd y gynhadledd ar gyfer pobl o unrhyw oedran gyda phrofiad o ofal yn cymryd lle ym Mhrifysgol Gobaith Lerpwl ar Ddydd Gwener 26ain Ebrill blwyddyn yma. Mae'r tîm trefnu yn ei alw'r"CareExpConf" yn fyr, yn y Saesneg. I rai, bydd y gynhadledd ond yn ymddangos yn un arall mewn calendr llawn cynadleddau, cyfle arall i wrando ar arbenigwyr yn siarad am sut i wella'r system gofal. Byddai'r bobl yna yn anghywir iawn.
Nad yw hyn yn gynhadledd arferol; nad ydy'r rhain yn arbenigwyr 'arferol'. Mae'r gynhadledd yma yn unigryw. Mae'n adnabod am y tro gyntaf bod pobl gyda phrofiadau o ofal yn bobl gyffredin fel pawb arall, nid wedi rhannu gan gategorïau. Nad ydyn nhw rhywsut yn wahanol wrth ei gilydd wedi seilio ar y labeli y mae system gofal sydd ddim yn deall wedi arddodi arnynt.
Gymaint o labeli. Mae pobl ifanc mewn gofal yn aml yn cael ei gyfeirio at fel 'plant sy'n derbyn gofal (looked after children) neu hyd yn oed 'LAC' yn fyr. Wrth iddyn nhw gyrraedd oedran wedi penderfynu gan eraill, maen nhw'n troi'n 'ymadawyr gofal'. Mae deddfwriaeth hyd yn oed wedi diffinio nhw yn fwy manwl er mwyn i gymorth cael ei ddogni - 'plentyn cymwys', 'plentyn perthnasol', 'cyn-blentyn perthnasol' neu hyd yn oed 'plentyn amodol'.
I'r system gofal, cafwyd 'gofal' yn aml ei rannu mewn i labeli i sicrhau bod plant ifanc yn derbyn y gwasanaethau maen nhw'n haeddu - neu nad ydynt yn derbyn y cymorth maen nhw angen oherwydd maen nhw'n methu ffitio mewn i'r categorïau mae gweision sifil wedi rhannu nhw mewn iddo.
Nad yw gofal go iawn fel hynny. Mae'r profiad gofal go iawn yn broses llifeiriog parhaol sydd ond yn cael ei ddiffinio gan y plentyn. Nad ydy fel rhes o ddociau lleoliad wedi diffinio gan bobl swyddogol. Mae'r un plentyn a ddaeth mewn i ofal fel plentyn wedi cam-drin yn 6 mlwydd oed, pwy oedd yn driwant o ysgol yn 14, gadawodd ysgol yn 16 heb gymwysterau nawr yn dwrnai canol oed. Roedd y darlithydd prifysgol sy'n dysgu ei myfyrwyr yn dawel unwaith yn rhan o'r ystadegyn 'ymadawyr gofal' pan roedd hi'n ddigartref yn ddeunaw. Nad yw'r profiad gofal yn ystadegyn, mae'n broses dynamig.
Er bod pobl ifanc o ofal yn aml yn wynebi ragfarn a stigma, un o'r pethau gwych am y profiad gofal, wedi dangos nifer o weithiau dros y cenhedloedd gan lawer o bobl gyda phrofiad o ofal, yw bod nhw'n gallu cyrraedd ei freuddwydion, gyda'r cymorth cywir, cefnogaeth a chyfle. Mae'r plentyn wedi cam-drin yn gallu dod yn dwrnai, y fenyw ifanc digartref yn athrawes prifysgol, a.y.b.
Agwedd allweddol arall am y profiad gofal yw ei fod yn brofiad holl fywyd. Nad ydy'n gorffen yn sydyn yn 16 neu 18, neu pryd mae gofalwyr cymdeithasol yn ei ddiffinio yn 'berthnasol', 'ffurfiol o berthnasol' neu unrhyw beth arall. Mae'r heriau, dysgu a llwyddiannau yn parhau yn bell mewn i fywyd oedolyn. Ond nad yw ymchwilwyr yn aml yn siarad gyda phobl gyda phrofiad o ofal dros 25. Mae'r bobl yma yn parhau i fod yn anweladwy i ddeddfwriaeth a chymorth, felly mae eu gallineb, profiad a dysgu yn parhau i fod yn gronfa heb ei ddefnyddio.
Bydd y gynhadledd "CareExpConf" yn unigryw. Byddai'n dod a'r twrnai gyda phrofiad o ofal, yr athrawes gyda phrofiad o ofal, y doctor, yr adeiladwr, y glanhawr ffenestri a phobl gyda phrofiad o ofal o bob masnach neu broffesiwn, o bob oedran, ynghyd efo pobl ifanc dal yn ofal a'r rhai sydd wedi gadael yn ddiweddar. Bydd yn dangos trwy ei bodolaeth bod pob person gyda phrofiad o ofal yn gallu cyrraedd ei breuddwydion, bod stigma a rhagfarn yn gallu cael ei oroesi a bod nad oes angen i unrhyw un o'r teulu gofal teimlo yn unig neu'n annheilwng.
Bydd y gamp yna yn llwyddiant ei hun. Ond bydd y CareExpConf yn gwneud mwy. Bydd yn galluogi'r gymuned gofal o bob oedran, yn ei holl amrywiaeth, i gael y cyfle i ganolbwyntio eu gallineb, gwybodaeth a phrofiad i gyd ar y system gofal i ddarganfod beth sydd yn gweithio a beth sydd ddim yn gweithio. Bydd yn caniatáu’r cyfoeth o gallineb yna i wneud awgrymiadau addysgiadol ar gyfer gwelliannau i ofal yn y dyfodol. Nad ydy hyn wedi cael ei wneud o'r blaen, byth. Na, na fydd y gynhadledd ar gyfer pobl o bob oedran gyda phrofiad o ofal, sy'n cael ei alw'n CareExpConf, dim ond yn gynhadledd arall...

Comments