top of page

Mis Hanes LGBT - Hanes Kieran (yn www.whocaresscotland.org)

Mae Mis Hanes LGBT 2019 yn dechrau heddiw. Nod cyffredinol mis Hanes LGBT yw hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth er budd y cyhoedd. Gwneir hyn drwy:

  • Amlygu pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (“LGBT”), ynghyd â’u hanes, eu bywydau a’u profiadau yn y cwricwlwm a diwylliant sefydliadau addysgol a sefydliadau eraill, a'r gymuned ehangach;

  • Codi ymwybyddiaeth a gwella addysg ar faterion sy'n effeithio ar y gymuned LGBT;

  • Gweithio i wneud sefydliadau addysgol a sefydliadau eraill yn llefydd diogel ar gyfer pob cymuned LGBT; a

  • Hyrwyddo lles pobl LGBT, trwy wneud yn siŵr bod y system addysg yn cydnabod ac yn galluogi pobl LGBT i gyrraedd eu llawn botensial. Y gobaith yw y byddant yn cyfrannu'n llawn at gymdeithas ac yn cael bywyd llawn cyfleoedd, a bydd y gymdeithas gyfan yn elwa o hyn.

Mae dolen isod at blog a ysgrifennwyd gan Kieran yn www.whocaresscotland.org Mae Kieran yn berson ifanc LGBT â phrofiad o fod mewn gofal, sy'n ysgrifennu am ei brofiad. Gallwch ddarllen stori Kieran yma, yn www.whocaresscotland.org

 
 
 

Comments


Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags

    Contact us: +4429 2068 8722   /   Contact@ExChangeWales.org   /  CASCADE, Glamorgan Building, King Edward VII Avenue, Cardiff, CF10 3WT

    Cysylltwch â ni: +4429 2068 8722   /   Cysylltu@ExChangeCymru.org   /  CASCADE, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WT

    © 2016 CASCADE / Cardiff University. Created with Wix.com

    © 2016 CASCADE / Prifysgol Caerdydd. Wedi'i chreu gyda Wix.com

    bottom of page