top of page

#GanBoblIfancArGyferPoblIfanc

Mae'r grŵp yn cyfarfod yn wythnosol ac yn cynnig cyfle i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i ymweld â'r brifysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd â'r nod o godi eu dyheadau addysgol a'u hymwybyddiaeth o fywyd prifysgol. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys gweithdai mewn gwyddoniaeth, hanes a throseddeg, teithiau prifysgol, ymweliadau un i un, profiadau preswyl a gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a myfyrwyr prifysgol.

Yn ystod sesiwn ym mis Ionawr a mis Chwefror 2019 buom yn gweithio gyda'r grŵp i lunio negeseuon am addysg i rannu mewn fideo i bobl ifanc eraill. Dechreuon ni drwy drafod syniadau ar yr hyn yr hoffent ei rannu gyda'u cyfoedion. Pa bethau sy'n eu helpu mewn addysg? Beth sy'n gwneud gwahaniaeth? Ac yn olaf, beth sy'n eu hysbrydoli? Ar ôl dewis eu prif negeseuon, aethon nhw ati i sgriptio a chreu elfennau gweledol ar gyfer y fideo. Fe wnaethom ddefnyddio byrddau stori i geisio cyfuno syniadau'r grŵp ac yna buom yn greadigol wrth ddylunio a hyd yn oed defnyddio ‘fuzzy felts’.

Defnyddiwyd y delweddau gwreiddiol a wnaed gan y grŵp fel sail i'r animeiddiad fideo isod, i ledaenu’r negeseuon y mae'r bobl ifanc am eu rhannu.

Hoffem ddiolch i'r bobl ifanc ysbrydoledig am rannu eu straeon a'u holl waith caled ar y ffilm. Hoffem hefyd gydnabod y staff cymorth sydd wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc ers nifer o flynyddoedd.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r fideo.

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page