Bwydo Babanod ar y Cychwyn
- Dr Dawn Mannay
- Apr 25, 2019
- 2 min read
Mae beichiogrwydd a mamolaeth yn destun mwy a mwy o wyliadwriaeth ac mae ymchwil wedi amlygu ei bod hi’n anodd cynefino â bwydo ar y fron yn gyhoeddus. Ar yr un pryd, mae mamau sy’n bwydo â llaeth fformiwla yn teimlo’n aml fod eraill yn eu hystyried yn famau diffygiol. Archwiliodd astudiaeth gan Aimee Grant, Dawn Mannay a Ruby Marzella y materion hyn gyda mamau newydd yng Nghymru.
Roedd teimladau bod eraill yn eu gwylio, eu tafoli a’u barnu, gyda pheth profiad uniongyrchol o bobl ddieithr yn eu cwestiynu, yn ganolog yn llawer o fyfyrdodau’r mamau. Dyma oedd y sefyllfa i famau a oedd yn bwydo ar y fron a mamau a oedd yn bwydo â llaeth fformiwla, fel y dengys rhai o’r myfyrdodau gan famau yn yr astudiaeth;
‘Mae pobl yn meddwl: “pam mae hi’n bwydo â photel? Pam?” Hyd yn oed i’r pwynt pan rwy’ bron â theimlo bod rhaid i mi ddweud mai fy llaeth i sydd yn y botel.’
Roeddwn i o hyd yn teimlo, chi’n gwybod, beth fydd pobl yn ei feddwl? Ar un adeg, roedden ni mewn bwyty un tro ac roeddwn i’n ymwybodol fy mod i’n cuddio’r powdr; roeddwn i wrthi’n gyfrinachol yn ei gymysgu.’
‘Roedd y glanhawr, y dyn yma, yn glanhau o gwmpas y byrddau, yn gweithio yno, a daeth e ata’ i a dweud, “Ydych chi’n bwydo ar y fron?”
‘Roeddwn i yn y parc [yn bwydo ar y fron] a doedd dim yn fy ngorchuddio ... rydych chi’n teimlo’n eitha’ budr ... rydych chi’n teimlo fel tasech chi ... fel tasech chi’n sefyll yno’n dawnsio o amgylch polyn ... dyna sut mae pobl yn edrych arnoch chi ... fel, o dyna fudr’
Dangosodd yr astudiaeth pa mor heriol yr oedd hi i famau ddelio ag ymyriadau gan bobl ddieithr mewn mannau cyhoeddus lle’r oeddent yn teimlo bod llai o reolaeth ganddynt ar sefyllfaoedd a dynameg rhwng unigolion, a sut mae’r digwyddiadau hyn yn effeithio ar eu hyder a’u dewisiadau o ran bwydo. Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon i’w gweld yma yn y ffilm fer a’r erthyglau.
Comments