Croeso i ExChange: Teulu a Chymuned
- ExChange Wales
- Apr 25, 2019
- 2 min read
Sut dechreuodd hyn a sut gallwch chi helpu?
Bu Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu adnodd cymuned arferion ar-lein i wella profiadau addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yng Nghymru - ExChange: Gofal ac Addysg. Mae’r adnodd yn cynnig ‘siop un stop’ ddefnyddiol o wybodaeth am wella deilliannau mewn gofal ac addysg i ymarferwyr, gofalwyr maeth, athrawon, ymchwilwyr, a phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Arweiniodd hyn at wahoddiad i gymryd rhan mewn creu adnodd cymuned arferion ar-lein newydd, ExChange: Teulu a Chymuned.
Wrth archwilio sut olwg ddylai fod ar y wefan, pa bynciau y dylid eu cynnwys a beth i’w galw, buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o dimau Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg. Dros ddeuddydd lawn ym mis Tachwedd ac yn Chwefror 2019, cyfarfuom fel grŵp i ddechrau hel meddyliau, cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a thrafod sut gallai adnodd cymuned arferion ar-lein newydd gael ei ddatblygu. Cyfrannodd y gweithdai hyn a’r trafodaethau e-bost diweddarach at greu’r adnodd ar-lein newydd.
Daeth ExChange: Teulu a Chymuned yn fyw ddydd Mawrth, 19 Mawrth 2019, ond y dechrau yn unig yw hyn. Rydym eisiau i’r adnodd gael ei gyfeirio gan y bobl sy’n ei ddefnyddio ac rydym yn edrych ymlaen at gael eich syniadau am sut i ddatblygu’r pynciau a deunyddiau i’w rhannu.
Mae’r safle’n barod i’w ddefnyddio ac mae ganddo lu o ddeunyddiau defnyddiol, ond rydym yn awyddus i ehangu ac yn chwilio am ddeunyddiau eraill sydd wedi’u cyhoeddi, neu heb eu cyhoeddi, i’w rhannu’n rhydd gyda’r nod o gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I gyfrannu, anfonwch e-bost atom yn uniongyrchol, at contact@exchangewales.org
ความคิดเห็น