top of page

Gweithdy Ymarferydd: Gwneud dewisiadau mewn gwaith cymdeithasol plentyn a theulu - allwn ni ddysgu i

Amcanwyd y gweithdy i ddarparu cyflwyniad byr i beth rydym ni'n gwybod am sut mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud dewisiadau, wedi dilyn gan ymarferion ymarferol er mwyn profi a gweld pa wahaniaethu gallant nhw wneud. Arweiniwyd y gweithdy gan Dr David Wilkins a Dr Catherine Foster.

Cychwynnodd y gweithdy gan archwilio pwysigrwydd y dewisiadau sy'n cael ei wneud gan weithwyr cymdeithasol ac amlinellu'r gwahaniaethau rhwng ffyrdd o feddwl rhesymol a rhai mwy greddfol. Hefyd amlygodd Dr Wilkins pwysigrwydd moesau a gwerthoedd a dwedodd bod yng ngwaith cymdeithasol, na all y dewisiadau am deuluoedd byth bod yn rhesymol neu'n dechnegol yn unig.

Yna esboniodd Dr Wilkins sut mae dewisiadau'n aml yn cael ei wneud ar ryw fath o ragolwg i'r dyfodol, sut bynnag mor ymhlygol neu echblygol. Er bod neb yn gallu gweld i mewn i'r dyfodol, efallai mai'n bosib pennu bod angen mwy o gymorth ar rhai teuluoedd nag eraill, neu bydd rhai pobl yn elwa mwy (neu lai) o ffurfiau penodol o gymorth

Yna rhoddwyd tasgau cyflym i'r mynychwyr i geisio, i helpu nhw ystyried medrau rhagolwg eu hun. Er enghraifft, gofynnwyd Dr Foster pum cwestiwn 'gwybodaeth gyffredinol' am waith cymdeithasol, i helpu ni ddeall os oedden ni'n orhyderus, danhyderus neu wedi'i galibro'n dda ar y cyfan.

Wedyn siaradodd Dr Wilkins am y dull Fermi, sydd yn helpu amlygu unrhyw dybiau sy'n cael ei wneud wrth i ni ystyried dewisiadau gwahanol. Yn defnyddio'r dull yma, ceisiom ni ateb y cwestiwn - 'faint o weithwyr cymdeithasol asesu a chyfeireb sydd ym Mirmingham?'. Doedd neb yn gwybod yr ateb cywir ond wrth ystyried cyfres o gwestiynau perthnasol, megis faint o bobl sydd yn byw ym Mirmingham, faint o blant sydd yn cael ei chyfeirio pob blwyddyn a sawl asesiad gall un gweithiwr cymdeithasol cwblhau pob wythnos, medrwn ni greu amcangyfrif rhesymol.

Wedi egwyl fer am goffi, rhanasom ni i mewn i grwpiau bach i gymhwyso'r technegau i astudiaethau achos. Darllenodd pob aelod o'r grŵp yr astudiaeth achos ac atebasom ni cwestiynau am beth gall digwydd nesaf. Yna drafodasom ni ein hatebion fel grŵp ac ystyrion ni os oedden ni eisiau newid ein hatebion cyntaf. Ar ôl ambell drafodaeth, daeth pob grŵp ymlaen gyda set o atebion cydseiniol i'r cwestiynau.

Roedd y canlyniadau o'r gweithgaredd yma'n ddiddorol. Yn sawl achos, datblygwyd grwpiau rhagolygon mwy cywir am beth gall digwydd nesaf nag unigolion. Yn ein gweithdy, digwyddodd y gyferbyn, gyda rhai unigolion yn dangos mwy o gywirdeb na'r grwpiau.

I WELD Y PWYNT PŴER, PWYSWCH YMA

Diolch i Dr David Wilkins a Dr Catherine Foster am gyflwyno'r gweithdy.

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page