Cydweithrediad, Creadigaeth a Chymhlethdod: Blog Cynhadledd
- Dr Jen Lyttleton-Smith, cyf. Sophie McLaughlin
- Jul 4, 2019
- 5 min read
Cydweithrediad, Creadigaeth a Chymhlethdod: Datblygu rhwydweithiau ac ymarferion o gyd-gynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc. Canolfan Manceinion ar gyfer Astudiaethau Ieuenctid, Prifysgol Fetropolitan Manceinion. Mehefin 2019.
Er bod y potensial ar gyfer cyflogi technegau cyd-gynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc wedi adnabyddi yn ymchwil ac ymarfer yn gynyddol, mae cynadleddau sy'n canolbwyntio ar arloesedd academaidd ac ymarfer yn yr ardal benodol yma yn brin.
O ganlyniad, roedd y gynhadledd 'CCC' yn gynhadledd na ellir ei golli ar gyfer y rai sydd yn edrych i arholi'r dulliau ac ymhlygiadau o'r estyniad pwysig o waith cyfranogol yma. Er roedd tôn y gynhadledd yn llethol cefnogol o botensial cyd-gynhyrchu democrateiddio ar y cyfan, roedd yn foddhaol i ddarganfod bod yna llawer o sylw wedi rhoi ar archwilio heriau, tyniannau a gwrthddywediadau'r dull, yn ogystal â dathlu ei llwyddiannau a phrofiadau cadarnhaol. Rhedwyd thema celfyddydau a chreadigaeth gref trwy gydol y digwyddiad, gydag ardal cyd-gynhyrchu greadigol yn rhedeg yn un o'r ystafelloedd ymneilltuo a gynhyrchodd nifer fawr o weithiau celf fach sy'n cynrychioli beth mae cyd-gynhyrchu yn 'teimlo ac yn edrych fel' o ganlyniad.

Mynychwyd nifer o gyfranogwyr ifanc o'r prosiectau roedd yn cael ei drafod ar y diwrnod hefyd er mwyn cyfrannu mewn ffyrdd amrywiol, yn rhoi bywiogrwydd i'r gynhadledd sydd yn aml yn absennol o ddigwyddiadau academaidd.
Cyflwynwyd y 'keynotes' gan: Liam Hill, Sefydlwr a Phrif Weithredwr y sefydliad elusennol Llais i Blant; Dr Kirsty Liddiard, o Brifysgol Sheffield a chyd-arweinydd y prosiect ymchwil Byw Bywyd i'r Llawnaf; a Deborah Jump gyda Hannah Smithson, Prifysgol Fetropolitan Manceinion (a wnaeth camu i mewn yn arwraidd i adleoli arweinydd Awdurdod Lleol Manceinion Julie McCarthy, yn anffodus yn sâl). Canolbwyntiodd cyflwyniad Liam, 'Cerdded fy Nhaith' ar ddarparu adroddiad manwl ac emosiynol o'i brofiad 20 mlynedd yn y system gofal fel plentyn a pherson ifanc. Er roedd Liam yn eithaf agored am y digwyddiadau trosiadol a phrofiadau gofal trawmatig wnaeth o bwy trwyddo, roedd y neges gynhyrfiol yn glir trwy gydol: Mae'n holl bwysig i wrando ar leisiau plant agored i nifer a phobl ifanc a thrin nhw fel pobl, yn hytrach nag 'achosion'. Mae'r neges yma'n berthnasol i ymarfer ac ymchwil, a gosododd y tôn ar gyfer y gynhadledd yn un o barch a phryder ar gyfer gwirioneddau a safbwyntiau plant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai wedi dieithrio gan ei amgylchiadau.
Roedd cyflwyniad Kirsty hefyd yn bwerus, gan er roedd ei stori hi yn un o gyd-gynhyrchu a chyd-arwain prosiect ymchwil sy'n ymchwilio bywydau pobl anabl a phobl ifanc gyda bywydau cyfyngedig yn amlwg yn llai personol, roedd bron holl ei drafodaeth yn canolbwyntio ar brofiadau ei gyd-ymchwilwyr ifanc anabl, ynghyd a'r ymarferoldebau o sicrhau bod cyrchiad i'r prosiect mor gyfiawn a chymwynasgar a phosib ar gyfer anghenion a dymuniadau ei chyd-ymchwilwyr. Gan rannu gymhelliant ac angerdd yr holl dîm i gynhyrchu, dadansoddi a rhannu ymchwil gan y rhai sydd yn rhannu profiadau allweddol gyda'u gyfranogwyr, roedd hefyd gennym ni'r cyfle i wylio ffilm fer wedi cynhyrchu gan ac yn cynnwys y cyd-ymchwilwyr, sydd ar gael ar wefan y prosiect (livelifetothefullest.org). Mae'r ffilm yn gwneud yn glir y mewnwelediad sydd yn bosib trwy ymchwil cyd-gynhyrchu gwir, ac mae'r prosiect yn disgleirio fel ysbrydoliaeth ac adnodd i bawb sydd yn ystyried sut yw'r ffordd gorau i ddatblygu cyd-gynhyrchu yn ymchwil.
Rhoddwyd Deborah a Hannah keynote diddorol ac apelgar yn ystod y noson flaenorol (mae'n debyg wedi porthi gan Corona!) ac roedd yn adrodd ar ei gwaith gyda merched a menywod ifanc sydd mewn perygl o ymrwymo mewn trais difrifol ieuenctid, wedi ariannu gan Comic Relief. Roedden nhw'n ofalus i wahaniaethu sut mae'r teler yma yn fwy cywir a foesol na'r geirio mwy cyffredin 'trais gang', ac esboniwyd sut mae nifer o'r merched maen nhw'n gweithio gyda'n cael ei gam-fanteisio, yn profi digartrefedd, neu gyda phroblemau cam-drin sylweddau.
Cynigodd y prosiect, gan weithio gyda 97 cyfranogwr ar draws Lloegr, Colombia a De Affrica, cyfleoedd i ymrwymo gyda gweithgareddau adeiladu-sgiliau gwahanol fel bocsio, pêl droed, creu ffilmiau a gwahanol gelfyddydau creadigol. Roedd llawer o faterion y cyfranogwyr wedi tarddu neu waethygu gan eu cylchoedd cymdeithasol ond dadleuodd Deborah a Hannah, wedi perfformio dadansoddiad rhwydwaith cymdeithasol o berthnasoedd cyfranogwyr, bod yr allwedd i helpant nhw oroesi eu profiadau heriol ac ymarweddau dinistriol oedd nid i geisio torri cyfeillgarwch ond yn hytrach i ddarparu teclynnau cymdeithasol a theimlad o annibyniaeth gyda gwell hunan-barch a hyder. Roeddem ni'n gallu gwylio ffilmiau byr wedi creu gan gyfranogwyr prosiect ac roedd yn manylu eu diddordebau, teithiau a blaenoriaethau mewn bywyd, ac roedd y rhain wedi creu'n brydferth, yn profi eu hymrwymiad dwfn gydag amcanion a dulliau'r prosiect. Efallai pwynt mwyaf pwysig y keynote oedd pa mor angenrheidiol ystyriwyd Deborah a Hannah perthnasoedd mentor ymddiriedol i'r ymdeithiad wedi gwneud gan cyfranogwyr y prosiect, yn dadlau bod i atal ymrwymiad mewn trosedd mae angen i ni ddangos buddsoddiad yn gofalu am ein pobl ifanc, yn cynnwys dychweliad eang i waith ieuenctid a phartneriaeth gyda chymunedau lleol yn ffyrdd sydd yn canoli'r lleisiau a dymuniadau o bobl ifanc.
Ochr yn ochr gyda'r keynotes roedd yna lawer o seminarau diddorol a gweithdai ar gael ac roedd yn arbennig clywed am yr ystod eang o brosiectau cyd-gynhyrchu sydd yn blodeuo ar hyn o bryd yn y DU ac yn bellach. Edefyn cyfredol trwy lawer o'r drafodaeth yn y gynhadledd oedd y goblygiadau a chwestiynau am y ceisiadau o 'rhoi llais' neu 'awdurdodi' plant a phobl ifanc wedi ymrwymo yn cyd-gynhyrchu, yn enwedig wedi ymwneud a chyd-gynhyrchwyr sydd yn agored i niwed neu wedi dramateiddio.
Archwiliwyd y cwestiwn yma yn y sesiynau mynychais i gan James Duggan, Janet Batsler a Harriet Rowley, Gabrielle Ivinson a Sarah Parry, a wnaeth i gyd gofyn mewn ffyrdd gwahanol pan mae cyd-gynhyrchu yn digwydd, pwy sydd yn rheoli'r cyllid, dylunio a phrosesau a phwy sydd yn cael ei gwahodd neu ei heithrio o ymrwymo ynddo? Fel dwedwyd Bell a Pahl (2018), "Mae [cyd-gynhyrchu] yn ddull sydd yn gorfodi sylw parhaus i berthnasoedd newidiol o bŵer a dominyddiaeth". Os ydym ni'n anwybyddu'r cwestiynau hollbwysig yma o fewn cyd-gynhyrchu a gwneud ymdrechion gweithredol i darfu dominyddiaeth ac ymarfer trefedigaethol, rydym ni'n codi'r posibilrwydd i gyd-gynhyrchu i fod yn ymarfer 'golchi-hawliau' sydd yn gwneud ymarfer neu ymchwil edrych yn fwy cyfiawn neu ddemocrataidd i bobl ar y tu allan (a mewnwyr) na'r gwirionedd.
Er gwreichiodd y gynhadledd nifer o syniadau cyffroes ar gyfer ymarfer ac ymchwil, ac roedd ganddo egni arbennig a gafwyd ei deimlo gan lawer o'r cyfranogwyr, roedd dal yna amheuaeth yn meddylion fy hun a fy nghydweithiwr, Hayley Reed (DECIPHer), bod sylw addas wedi cael ei rhoi i'r mater o gytundeb ac anhysbysedd. Tra roedd nifer o'r trafodaethau yn ystod y gynhadledd wedi trafod plant a phobl ifanc heb anhysbysedd, yn aml yn sôn am fanylion cymhleth ac efallai'n gwarthnodol am eu bywydau (yn cynnwys rhywioldeb, troseddoldeb ac ymelwad, gyda'u hardal leol a sefyllfaoedd personol) prin trafodwyd y mater o sut mae'r peryglon a defnyddiau posib neu ledaeniad o'r deunyddiau amlygol yma wedi cael ei godi a gweithio trwyddo gyda'r cyfranogwyr. Nid oeddem yn amau bod y materion yma wedi cael ei ystyried yn ofalus, ond roedd y diffyg trafodaeth yn amheus, yn enwedig gan roedd nifer o'r prosiectau'n cynnig rhyw fath o gymhelliant ar gyfer cymryd rhan, naill ai yn ffurf gweithgareddau am ddim, cyfleoedd neu gymwysterau. Teimlwyd bod angen proffil uwch ar y materion yma mewn trafodaethau o gyd-gynhyrchu yn y dyfodol, yn enwedig gan fod disgwrs wedi seilio ar hawliau yng nghalon gwerth hysbyswyd y dull. Er hyn, mae'n gnofa fechan (ac un a gall cael ei ymchwilio mewn ailadroddiadau dyfodol o'r gynhadledd) ac ar y cyfan roedd hyn yn gynhadledd hapus, ddiddorol ac uchelgeisiol a wnaeth estyn tuag at ddelfrydau iwtopaidd o ymchwil a pholisi cyfartal a democrataidd mewn byd lle mae peryglon i'r gwerthoedd yma yn cynyddu mewn amlder a thoster.
Bell, D. M., & Pahl, K. (2018). Co-production: towards a utopian approach. International Journal of Social Research Methodology, 21(1), 105–117. https://doi.org/10.1080/13645579.2017.1348581
Commentaires