top of page

Sut allwn ni wella'r profiad o bobl ifanc digartref sy'n byw mewn llety â chefnogaeth?

Ar 21ain Mehefin (Caerdydd) a 26ain Mehefin (Bangor) croesawyd ExChange Natalie Roberts o Brifysgol Bangor i gyflwyno gweithdy ar brofiadau pobl ifanc digartref sy'n byw mewn llety â chefnogaeth. Cyflwynwyd darganfyddiadau o brosiect a wnaeth gweithio gydag elusen ddigartref wedi seilio yng Ngogledd Cymru, Digartref.

Mynychwyd ystod eang o bobl broffesiynol, gyda nifer ohonynt yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol. Roeddem ni'n ffodus hefyd i gael presenoldeb nifer o'r bobl ifanc ac roedd yn gysylltiedig i'r prosiect ymchwil.

Amcanion y gweithdy oedd i:

  • Archwilio rhai o'r materion a rhwystrau mae pobl ifanc yn profi wrth yn byw mewn llety â chymorth.

  • Rhoi cyfle i ymarferydd i ystyried eu profiadau a chynnig datrysiadau addas.

Er mwyn rhoi cyd-destun i'r astudiaeth benodol, nodwyd rhai nodweddion craidd o lety â chymorth:

  • 'Rhwyd diogelwch' - darparu llety dros dro i leihau'r peryg di-oed o ddigartrefedd

  • Tŷ wedi 'rhannu' - gyda phobl ifanc, yn aml rhwng yr oedrannau 16-25.

  • 'Cymorth' - cymorth unigol wrth weithiwr allweddol gydag ardaloedd megis iechyd meddyliol, byw a sgiliau cymdeithasol.

Gweithgaredd grŵp: Gêm bwrdd - Beth fyddech chi'n blaenoriaethu os ydych chi'n dylunio rhaglen llety â chymorth?

Yn grwpiau bach, rhoddwyd £250,000 i fynychwyr (arian ffug!) er mwyn cyflafareddu dyraniad cyllid. Roedd pob sgwâr yn cynrychioli adnodd megis 'cwnsela', 'tocyn bws', 'gweithgareddau bach pob wythnos', 'sgiliau rheoli arian', 'CCTV' a 'phrofi cyffuriau'.

Ar y cyfan, dewiswyd mynychwyr ardaloedd ac roedd yn canolbwyntio ar y bobl ifanc ac wedi arwain gan anghenion e.e. gliniadur, gweithgareddau bach. Dewiswyd rhan fwyaf ohonynt nid i wario arian ar fwy nag un math o adnodd awdurdodaidd fel CCTV a phrofi cyffuriau. Er hyn, nodwyd rhai mynychwyr bod er gall y rhain cael ei ystyried yn oresgyniadau o breifatrwydd, efallai bydd eraill yn teimlo'n fwy diogel gyda rhain yn ei le.

Rhwystrau a materion

Yna symudodd y gweithdy ymlaen i ystyried y rhwystrau a materion wedi wynebu gan y rhai sydd yn llety â chymorth. Daeth pum parth i'r golwg o'r ymchwil.

  1. Iechyd Meddyliol

  2. Stigma

  3. Maeth

  4. Addysg

  5. Cyflogaeth

1. Iechyd Meddyliol - 'Wedi gadael i lawr gan wasanaethau'

  • 'Staff yn cymryd pob swydd' - Oherwydd toriadau mae yna ddibyniaeth ar staff hostel sydd heb hyfforddiant yn faterion iechyd meddwl. Cytunodd nifer o fynychwyr gyda hyn gan ddweud eu fod nhw'n 'gwneud eu gorau glas' wrth ddelio gydag anghenion iechyd meddyliol cymhleth.

  • Gwasanaethau Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc dim yn effeithiol - cefnogwyd hyn gan fynychwyr a phobl ifanc.

  • Awtistiaeth - Nid yw hosteli wedi cyfarparu ar gyfer awtistiaeth (synau uchel/larymau/newidiadau yn rhigolaeth). Mae'r ymchwil ac ymwybyddiaeth prin yn gallu gwneud lletyau â chymorth yn llefydd trallodus iawn i berson ifanc gydag awtistiaeth.

2. Stigma

  • 'Nid yn fy iard gefn' - Roedd yn aml gan gymunedau lleol rhagfarn o ddigartrefedd ac ofn cael llety â chymorth yn ei ardaloedd.

  • Landlordiaid yn gwrthod rhentu i bobl ifanc digartref

  • Stigma wrth ffrindiau - teimlo'n unig ac yn siomedig

3. Maeth

  • Mae adnoddau cyllid cyfyngedig a diffyg gwybodaeth maethiannol yn golygu bod nifer o bobol ifanc digartref yn bwyta bwyd safon isel.

  • Banciau bwyd: Gorfodwyd nifer o bobl i ymweld â banciau bwyd sydd prin yn darparu bwyd maethiannol ac yn bwydo'n bellach i mewn i'r stigmateiddio o bobl ifanc.

  • Mae canlyniadau iechyd o hyn yn effeithio’r tymor byr (iselder, blinder, ffwythiant gwybyddol cyfyngedig) a thymor hir (gordewdra, clefyd calon, cancr).

4. Cyflogaeth - 'Gwrthddywediad yn y system - Swydd neu dŷ?'

  • Oherwydd y system tai budd-dal, yn aml gorfodwyd pobl ifanc i wneud dewis rhwng cael cyflogaeth neu aros mewn llety â chymorth.

  • Hefyd trafodwyd y mynychwyr rhwystrau systematig eraill sydd yn aml yn cael ei gymryd yn ganiataol. Er enghraifft, os mae person ifanc am geisio am swydd, maen nhw'n aml yn llai tebygol o gael ei ystyried os ydyn nhw'n rhoi lawr ei chyfeiriad hostel. O ganlyniad maen nhw naill ai'n colli'r cyfle neu angen darganfod cyfeiriad arallddewis wrth aelod o'i theulu neu ffrind.

5. Addysg

  • Nad yw athrawon yn aml yn holl ymwybodol am ddigartrefedd ieuenctid a'r materion wedi wynebu gan y rhai sy'n byw mewn llety â chymorth.

  • Amgylchedd hostel - yn aml ddim yn ffafriol i ddysgu:

  • Dyfodiad i adnoddau yn brin, Wi-Fi gwael

  • Tynnu sylw, yn aml yn swnllyd

  • Anawsterau trafnidiaeth yn enwedig mewn ardaloedd gwledig

  • Dim yn gallu fforddio teithiau ysgol, adnoddau addysgiadol - teimlad o unigolrwydd a gwahardd

Datrysiadau: Rhai o'r nifer o ddatrysiadau wrth yr ymchwil a mynychwyr

1. Iechyd Meddyliol

Carden felen - darparu ciw tawel i wneud staff hostel yn ymwybodol bod chi ddim yn iawn - helpu gydag ymestyn allan pan mae siarad yn teimlo'n chwithig.

2. Stigma

Mae o waith allanol mewn cymuned ac ysgolion i gynyddu ymwybyddiaeth a herio stigma.

Mynychwyr: Addysgu'r rhai sydd yn 'ofn' digartrefedd ieuenctid e.e. Landlordiaid

3. Maeth

Sesiynau siopa a choginio wythnosol

Mynychwyr: Pecyn cymorth ar-lein sy'n rhoi'r holl wybodaeth yn un lle. E.e. APPs megis 'Too Good To Go' sydd yn helpu dosbarthu a defnyddio bwyd a fydd os amgen yn cael ei wastraffu.

4. Cyflogaeth

Ond yn gorfod talu am yr elfen 'rhent' (nid cymorth) os mae ganddyn nhw gyflogaeth - dull teg, a fydd yn galluogi person ifanc i gael cymorth wrth yn sicrhau sefydlogrwydd yn ei swydd newydd.

Mynychwyr: Adeg trawsnewid o 6-12 mis ar gyfer rhai sydd yn symud ymlaen - galluogi nhw i ennill annibyniaeth a sefydlogrwydd yn ei llety newydd sydd yn gallu bod yn brofiad llethol.

5. Addysg

Addysgu athrawon: elusennau digartref/hosteli yn adeiladu cysylltiadau gydag ysgolion

Cynigiad - corfforiad o fodiwl 'cefnogi digartrefedd' mewn hyfforddiant athrawon

Mae nifer o ddatrysiadau defnyddiol a chreadigol iawn o'r prosiect ymchwil wedi darparu yn y sleidiau Pwynt Pŵer.

Buddion llety â chymorth

Er gwaethaf y rhwystrau, mae'n bwysig i adnabyddi’r buddiannau o lety â chymorth a'r swydd allweddol sydd ganddo:

  • Dyfodiad i gymorth a chyfle i ddatblygu sgiliau

  • Cymdeithasu/Lleihau arwahaniad: ffrindiau newydd, medru creu perthnasoedd cadarnhaol gyda staff (sydd o gwmpas yn gyson)

  • Sefydlogrwydd a theimlad o 'gartref'

Gorffennodd y diwrnod gyda sesiwn Q&A cyflym gyda'r bobl ifanc lle'r oedd ganddyn nhw'r cyfle i rannu eu profiadau.

Meddyliau Terfynol

Mae angen rhoi sylw i'r rhwystrau sydd yn cael ei wynebu gan bobl ifanc mewn llety â chymorth er mwyn iddynt gael dyfodiad cyfartal i lety, cyflogaeth, addysg ac iechyd meddyliol - na allwn ni parhau i orfodi nhw i ddewis. Mae gan ffactorau allanol llawer o'r bai gyda chyfyngiadau ariannol yn gwaethygu'r problemau a gwahaniaethu systematig a stigma yn gwadu pobl ifanc o'r cyfleoedd maen nhe'n haeddu.

I WELD Y PWYNT PŴER GWASGWCH YMA

Diolch yn fawr i Natalie Roberts o Brifysgol Bangor a'r bobl ifanc am rannu eu gwaith gyda ni yn y gweithdy ymarferydd yma.

 
 
 

Commenti


Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags

    Contact us: +4429 2068 8722   /   Contact@ExChangeWales.org   /  CASCADE, Glamorgan Building, King Edward VII Avenue, Cardiff, CF10 3WT

    Cysylltwch â ni: +4429 2068 8722   /   Cysylltu@ExChangeCymru.org   /  CASCADE, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WT

    © 2016 CASCADE / Cardiff University. Created with Wix.com

    © 2016 CASCADE / Prifysgol Caerdydd. Wedi'i chreu gyda Wix.com

    bottom of page