top of page

Cacennau Pen-blwydd, rocedi a pheiriannau golchi: Sut mae rhesymeg 'fuzzy' yn gallu awdurdod

Dychmygwch eich bod wedi casglu grŵp o bobl at ei gilydd a rhoi cynhwysion a chyfarwyddiadau i bobi cacen iddyn nhw. Os ydyn nhw'n dilyn y cyfarwyddiadau, dylen nhw i gyd gallu pobi cacen yn y diwedd. Ar lefel llawer mwy uwch os oeddech chi'n casglu grŵp o wyddonwyr a rhoi'r adnoddau a chyfarwyddiadau i greu roced iddyn nhw, dylen nhw allu creu un yn y diwedd. Ond, os rhoddech chi gyfarwyddiadau am sut i fagu plentyn i rieni a chymhwyso'r rhain i bob plentyn, byddech chi nid ond yn disgwyl hyn i ffaelu, ond efallai byddech chi'n disgwyl i'r plant bod yn anhapus ac wedi cythryblu gan ddull mor llinol ac anhyblyg.

Dyma le mae'r peiriannau golchi yn dod i mewn. Ychydig yn ôl fe wnes i brynu peiriant golchi a wnaeth gweithio ar egwyddorion rhesymeg 'fuzzy'. Yn syml, roedd hyn yn meddwl roeddech chi'n gallu cychwyn y gylchred golchi, ond roedd yn gallu addasu sut roedd y roedd yn golchi'r dillad os oedd y gylchred dewisasoch chi ddim yn gweithio. Wrth gwrs allech chi ymestyn y trosiad yn rhy bell a mynd ar goll yn llawer o drafodaethau athronyddol am bwy sy'n penderfynu canlyniadau a phwy sy'n diffinio llwyddiant; ond mae yna llawer credaf I, gallem ni ddysgu o resymeg fuzzy a'r angen i weithio gyda phobl ifanc mewn dull addasol a chwim, lle maen nhw wedi awdurdodi i reoli'r agenda, penderfynu’r canlyniadau a dod yn awdur stori eu hun.

Yn anffodus, yr achos yn gynyddol yw bod darpariaeth ar gyfer pobl ifanc, yn enwedig y rhai dan anfantais, cysylltu i agenda llinol a ddewiswyd eisoes. Gall yr agenda mynd rhywbeth fel; "Bydd y bobl ifanc NEET yn gyfranogi o fewn y cynllun sgiliau a tair mis wedyn byddant nhw wedi dechrau cyflogaeth a pharhau hyn am o leiaf 13 wythnos". Wrth gwrs mae'n dda i gael goliau ac mae'n dda i allu dweud wrth bobl, yn enwedig pryd chi'n cael eich ariannu gan y cyhoedd neu gyllid elusennol, beth ydych chi'n ceisio cyflawni ond mae unrhyw un sydd wedi treulio amser yn gweithio gyda phobl ifanc gydag anfantais yn gwybod bod bywyd yn aml yn llawer mwy cymhleth na hyn.

Yn aml mae yna bobl ifanc gydag ystod o anghenion sy'n gorgyffwrdd ac yn gymhleth ac sydd dim yn ffitio'n rhwydd i unrhyw un bocs. Er enghraifft, gall rhywun fod yn "ddyn ifanc, gyda phroblemau iechyd meddyliol, yn byw mewn llety dros-dro, gyda chofnod troseddol, sydd mewn dyled, gyda phroblemau alcohol a chyffuriau ac mae ganddo merch gan bartner wedi dieithrio sydd mewn gofal". Allwn i fynd ymlaen ac ymlaen ond bydd llawer o weithwyr sydd yn gweithio mewn prosiectau ieuenctid sy'n targedu pobl ifanc dan anfantais yn gwybod y llun. Os ydych yn ychwanegu newidynnau wedi seilio ar hunaniaeth, anabledd, rhywioldeb, hil, dosbarth, diwylliant a llwyddiant addysgol, mae'r croestoriadau amrywiol ac amrywiaeth o bobl ifanc rydym ni'n gweithio gyda'n enfawr ac yn golygu bod datrysiadau 'un maint yn addas i bawb' yn ddiystyr ac yn yr achosion gwaethaf, yn niweidiol ac yn wastraff o adnoddau cyfyngedig.

Gan fod llywodraethau nawr yn edrych i adolygu sut mae'n ariannu gwasanaethau ieuenctid a sut dylen nhw edrych fel efallai nawr yw amser da i gofleidio "dull mwy addasol a chwim". I dderbyn bod ar gyfer nifer o'r bobl ifanc mwyaf dan anfantais rydym ni'n aml yn siarad am gymorth a chefnogaeth hir tymor wrth iddyn nhw osgiladu eu ffordd tuag at ddarganfod y sbarc, hunangred a strwythuron gymorth a fydd yn galluogi iddyn nhw fyw bywyd i gorau o'u gallu. Mae hefyd angen i ni symud ymlaen wrth ddulliau unigoledig iawn er mwyn galluogi pobl ifanc i weithio mewn grwpiau lle maen nhw'n gallu creu cysylltiadau, trafod eu bywydau ac adnabod adroddiant eu hun.

Wrth gwrs, dylen nhw gael ei herio, a gwahanol safbwyntiau wedi'i gynnwys ond yng nghalon y dull yw gred bod pobl ifanc yn aml yn y safle gorau i ddiffinio pwy ydyn nhw, beth yw ei materion a pha gymorth a gallai fod angen arnynt i symud ymlaen. Wrth iddyn nhw ddatblygu mae'n debyg gall hyn newid a gallent nhw fynd trwy gyfnod hirfaith o geisio, rhoi'r gorau iddi a gollwng allan ond yn aml gall perthynas gyda gweithiwr medrus troi'r profiad mewn i ddysgu sydd yn galluogi nhw i well canfod sut gallent nhw newid ei sefyllfa bywyd. Hefyd gall gweithio mewn grŵp lle mae ganddyn nhw fond cyffredin helpu nhw i roi ei sefyllfa bywyd mewn cyd-destun, helpu nhw cynnig a derbyn cymorth, datblygu rhwydweithiau cymorth a meddwl yn fwy cyfannol am ba newid sydd angen arnynt i fyw bywyd cyflawn.

Gall fod bod nid yw'r holl newid yma wedi canolbwyntio arnyn nhw ond gall gweld nhw'n gofyn cwestiynau am sut mae ei gymuned leol yn cael ei rhedeg, agenda pwy sydd yn ei redeg a faint mae'n berthnasol i'w brofiad bywyd. Yn fyr gall y dull yma cychwyn y broses o bobl ifanc yn datblygu mewn i ddinesydd ymgysylltiedig sy'n "greawdwyr" nid ond "treulwyr" ac yn siŵr dyna greigwely cymuned lwyddiannus a chydlynes?

Cafwyd y blog ei bostio'n wreiddiol gan Vulnerability 360 a gall cael ei ddarganfod yma.

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page