top of page

Ystyried Barnado's

Amcangyfrifwyd bydd 1 ym mhob 4 menyw yn gyswllt i achosion gofal yn dod yn 'gleientiaid ailadroddus' o'r llys teulu o fewn 7 mlynedd (Broadhurst et al. 2017). Gwasanaeth yw Ystyried sydd yn amcanu at ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol i fenywod a'u phartneriaid sydd wedi profi cael plentyn wedi tynnu i ffwrdd o'u gofal yn orfodol ac yn barhaol. Cefnogwyd rhieni hyd at ddwy flynedd ac maent yn derbyn cymorth penodol sy'n cwmpasu cwnsela ac adeiladu hyder, i reolaeth ddyled.

Wedi disgrifio fel cefnogi 'menywod a'u phartneriaid i ddeall ei gorffennol, ei dyfodol a chyflawni ei amcanion i'r dyfodol' (Barnado's 2017), prif amcan Ystyried yw atal beichiogrwydd ailadroddus yn y tymor byr, lle mae prin amser wedi bod i wneud newid cadarnhaol a chymryd ail blentyn i ffwrdd yw'r canlyniad mwyaf tebygol.

Datblygwyd y gwasanaeth yn 2016, ym mhartneriaeth gyda Chyngor Tref Casnewydd, Barnado's a'r Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Yn wreiddiol ar gael yng Nghasnewydd, ymestynnodd Ystyried yn gyflym ar draws Gwent. Ers hynny, mae'r Llywodraeth Cymraeg wedi buddsoddi £850,000 i sicrhau'r argaeledd o gymorth tebyg ar draws Cymru.

Comisiynwyd CASCADE i wneud asesiad o Ystyried yng Ngwent. Wedi ariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Llywodraeth Cymraeg, amlygodd yr ymchwil anghenion lefel uchel ac amlochrog o fenywod a'u phartneriaid. Roedd y broses o adeiladu perthnasau ac ymddiried yn aml yn cymryd llawer o amser ac yn heriol, ac roedd y dynesiad teimladwy a pharchus o weithwyr Ystyried yn bwysig wrth goroesi’r heriau yma. Roedd canlyniadau'r astudiaeth yn galonogol; roedd rhieni yn gwerthfawrogi'r argaeledd o gymorth emosiynol ac ymarferol ac roedd yna dystiolaeth o gynnydd cadarnhaol mewn ystod o ardaloedd yn cynnwys iechyd, llety a lles.

Mae'r adroddiad gwerthusiad yn cynnwys manylion llawn y dulliau astudio a chanfyddiadau. Yn ogystal, gwnaethom ni gomisiynu cwmni cynhyrchiad 'Like an Egg' i greu ffilm i grynhoi'r canfyddiadau o'r cyfweliadau gyda menywod sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys teimladau nhw am y gwasanaeth, y math o gymorth sy'n cael ei darparu a'u hystyriaethau ar newid a chynnydd. Mae'r lleisiau yn y ffilm yn dod o fenywod sydd yn gyswllt i Ystyried.

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page