top of page

Seibrfwlio

Seibrfwlio yw "unrhyw ymddiheuriad wedi perfformio trwy gyfryngau electronig neu ddigidol gan unigolion neu grwpiau sydd yn cyfathrebu negeseuon gelyniaethol neu ymosodol ailadroddus gyda'r amcan o amharu neu wneud eraill yn anghyffyrddus". (Tokunaga, p. 278, 2010). Mae'n gallu digwydd unrhyw amser o'r diwrnod yn hytrach na bwlio 'traddodiadol', sydd yn cymryd lle o gwmpas ac yn ystod y diwrnod ysgol. Mae hyn oherwydd y natur o gyfryngau cymdeithasol, sydd un o'r prif ffyrdd mae pobl ifanc yn rhyngweithio yn y 21ain ganrif.

Mae pobl ifanc sydd yn dioddef o seibrfwlio yn aml yn dioddef materion gydag iechyd ffisegol (colli neu godi pwysau, problemau cysgu) a meddyliol (iselder, pryder, anwahaniaeth, syniadaeth hunanladdol). Gall llwyddiant academaidd hefyd cael ei effeithio.

Dylai rhieni edrych allan am arwyddion rhybudd megis gocheliad technoleg, newidiadau archwaeth, arwahaniad, pryder ac iselder. Dylen nhw gefnogi trafodaeth agored am y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a chefnogi'r defnydd o osodiadau preifatrwydd.

Os yw rhieni a gofalwyr yn credu mai ei phlentyn yn dioddef o seibrfwlio, y peth gorau i wneud yw recordio beth sydd wedi digwydd, cymryd sgrin luniau o'r negeseuon a delweddau a blocio'r person sydd wedi bod yn bwlio nhw.

Medrwch gweld ystod o adnoddau (Saesneg) defnyddiol isod.

Adnoddau Cyffredinol

Adnoddau Cymru

Adnoddau Lloegr

Adnoddau Yr Alban

Adnoddau Gogledd Iwerddon

Y sefydledig a'r allanolwyr: seibrfwlio fel proses gwaharddol

Awdur: Cindy Corliss

Blwyddyn: 2017

Crynodeb:

Mae seibrfwlio wedi dod yn fwy amheus ar hyd y degawd diwethaf gydag enghreifftiau eithafol o bobl ifanc yn cyflawni hunanladdiad oherwydd ei erledigaeth. Er mae'r cyffredinolrwydd o seibrfwlio ynghyd â'i effeithiau wedi cael ei ymchwilio ac adnabod, mae'r seiliau damcaniaethol am ddeall pam mae pobl ifanc yn ymrwymo yn yr ymddygiadau yma wedi dan ymchwilio. Mae dealltwriaeth glir tu ôl y cymhellion mewn i seibrfwlio fel gwahardd yn angenrheidiol er mwyn helpu lleihau'r ymddygiadau yma yn ogystal â chyfeirio at ddiffygion yn diffinio beth mae seibrfwlio yn golygu.

Mae'r astudiaeth yma yn defnyddio dyluniad aml ddull, yn gyntaf gan ddefnyddio data meintiol trwy arolwg wedi dylunio i dargedu disgyblion (n=450) mewn tair ysgol Uwchradd Gatholig yng Nglasgow, Yr Alban. Yn ail, casglwyd data ansoddol trwy gyfweliadau gyda phobl broffesiynol addysgiadol (2=13; naw athro, pedwar addysgwr sydd ddim yn athrawon). Canolbwyntiwyd y drafodaeth o’i chanlyniadau ar y canfyddiadau o seibrfwlio trwy lygaid yr addysgwyr a sut roedden nhw'n deall ac adnabod y broses waharddol. I hwyluso'r ddealltwriaeth o seibrfwlio fel gwahardd, archwiliwyd canlyniadau'r astudiaeth trwy lens y fframwaith Sefydledig ac Allanolwyr.

Mae'r ymchwil yn dangos bod er mae athrawon heb ei addysgu neu'n anwybodus am gyfryngau cymdeithasol a seibrfwlio, mae pobl ifanc yn parhau i gynyddu ei adnabyddiaeth a mynediad i'r gwefannau yma am gymdeithasu a gwahardd, sydd yn cael effaith arwyddocaol ar les meddyliol a ffisegol. Er dwedodd rhan fwyaf o'r bobl ifanc a wnaeth cymryd yr arolwg nad oedden nhw wedi dioddef o seibrfwlio, roedd tystiolaeth o'r arolwg a'r cyfweliadau'n cytuno bod merched yn fwy tebygol o ymrwymo mewn seibrfwlio fel dioddefwr a bwli. Profwyd athrawon o'r tair ysgol gyfranogol heriau yn deall ac adnabod seibrfwlio a'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol gan bobl ifanc. Roedd eu gallu i adnabod yr ymddygiadau yma yn aml wedi'i danategu gan ddiffyg hyfforddiant mewn ardaloedd o dechnoleg ynghyd ag agweddau negyddol tuag at gyfryngau cymdeithasol.​

Mae'r astudiaeth yn cyfoethogi'r llenyddiaeth eangach gan archwilio seibrfwlio fel gwahardd trwy'r lens o fframwaith Sefydledig ac Allanolwyr Elias, yn darparu dynesiad nofel i ddeall y broses gwahardd. Mae'r astudiaeth hefyd yn darparu tystiolaeth sy'n haeru'r angen am ddarparu addysg, hyfforddiant a chymorth i athrawon mewn gwasanaeth mewn deall ac adnabod ymddygiadau seibrfwlio.

 
 
 

Comments


Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags

    Contact us: +4429 2068 8722   /   Contact@ExChangeWales.org   /  CASCADE, Glamorgan Building, King Edward VII Avenue, Cardiff, CF10 3WT

    Cysylltwch â ni: +4429 2068 8722   /   Cysylltu@ExChangeCymru.org   /  CASCADE, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WT

    © 2016 CASCADE / Cardiff University. Created with Wix.com

    © 2016 CASCADE / Prifysgol Caerdydd. Wedi'i chreu gyda Wix.com

    bottom of page