top of page

Hunan-Niweidio a Swydd Gofalwyr Maeth

Roedd gweithdy mis Rhagfyr ExChange yn gydweithrediad rhwng Colin Turner o'r Rhwydwaith Maethu, Dr Rhiannon Evans a Stephen Jennings o DECIPHer. Edrychodd y gweithdy ar hunan-niweidio a hunanladdiad rhwng pobl ifanc gyda phrofiad o ofal. Roedd y pwyslais ar y profiadau o ofalwyr maeth a gweithwyr preswyl a'r cymorth sydd angen ar gyfer rheolaeth ac ataliaeth.

Dechreuodd y sesiwn gyda chyflwyniad gan Colin Turner, y cyfarwyddwr yng Nghymru at Y Rhwydwaith Maethu. Trafododd bod Y Rhwydwaith Maethu wedi cefnogi'r ymchwil a rhannu adroddiadau roedden nhw wedi cyhoeddi ar "Iechyd emosiynol a meddyliol o blant wedi gofalu amdano yng Nghymru":

"Mae gan 1 yn 10 plentyn anhwylder iechyd meddyliol a gall cael ei ganfod. Ar gyfer plant mewn gofal mae'n 1 ym 5. Mae pobl ifanc sy'n gadael gofal yn 5 amser mwy tebygol o geisio hunanladdiad."

Siaradodd Colin am ei swydd fel gofalwr maeth. Wedi hywedd fel gweithiwr cymdeithasol a threulio llawr o'i gyrfa mewn gofal cymdeithasol, roedd Colin a'i gwraig wedi ysbrydoli gan ofalwyr maeth eraill a fabwysiadon i ddod yn ofalwyr eu hunain, yn enwedig ar gyfer plant gydag anghenion cymhleth:

"Roeddwn i wir yn credu roeddwn i'n gwybod beth mae fel i fod yn ofalwr maeth, ond yn onest doedd ddim clem gyda fi. Roedd yna heriau ac anawsterau na welais yn dod"

Trafododd Colin ei brofiad uniongyrchol gyda maethu pobl ifanc a phlant a chafodd trafferth gyda hunan-niweidio. Roedd ei drafodaeth yn gynyrfiadol ac yn angerddol a gwir amlygodd y swydd hanfodol o ofalwyr maeth. Trafododd Colin y pwysigrwydd o hyfforddiant a chymorth ar gyfer gofalwyr maeth. Dysgodd llawer o dechnegau rheolaeth i gefnogi ei blant maethu gan siarad â gofalwyr maeth gyda mwy o brofiad, ac am y pwysigrwydd a heriau o weithio gydag asiantaethau eraill, megis CAMHS neu ysgolion i roi'r pethau angenrheidiol yn ei le. Amlygodd Colin yr angen i ystyried yr iaith sy'n cael ei ddefnyddio gydag ac o gwmpas plant a phobl ifanc. Yn olaf, siaradodd am ba mor bwysig mae hi i ofalwyr maeth i edrych ar ôl eu hunain.

Beth yw'r beryg o feddyliau o hunanladdiad a cheisiadau hunanladdiad rhwng pobl ifanc a phlant gyda phrofiad o ofal?

Arweiniwyd y sesiwn gan Dr Rhiannon Evans o DECIPHer yn rhannu canlyniadau a thrafodaethau o ymchwil ei hun.

Rhai ffeithiau o'r ymchwil:

  • Yn 2017 roedd yna 72,670 plentyn "wedi gofalu amdano" yn Lloegr (cynnydd o 3% ers 2016) a 5,954 yng Nghymru (cynnydd o 6% ers 2016).

  • Mae plant a phobl ifanc sydd wedi profi gofal yn gallu bod o beryg uwch o ganlyniadau perthnasol i hunanladdiad: Mwy na 3 gwaith mwy debygol o geisio hunanladdiad na chyfoedion sydd dim mewn gofal.

  • Mae plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad gyda ffactorau peryg adnabyddus am ganlyniadau perthnasol i hunanladdiad: Mwy na 5 gwaith mwy debygol i gael cyflwr iechyd meddyliol.

  • Mae camdriniaeth (megis corfforol/rhywiol/esgeulustod goruchwyliol) yn ffactor peryg ar gyfer cais hunanladdiad.

  • Mae dal yna tystiolaeth gyfyngedig os yw cyn-ofal neu ddadleniad i ofal yw'r prif peryg am ganlyniadau perthynol i hunanladdiad.

Sut mae gofalwyr maeth a gofalwyr preswyl yn deall hunan-niweidio rhwng y plant a phobl ifanc maen nhw'n gofalu amdano a sut mae'r dealltwriaethau yma yn hysbysu ei dynesiad tuag at reolaeth ac ataliaeth?

Trafododd Rhiannon sut mae gofalwyr yn diffinio hunan-niweidio, eu dealltwriaethau o pam mae plant a phobl ifanc yn ei gofal yn hunan-niweidio a strategaethau nhw am reolaeth.

Diffinio hunan-niweidio: Difrifol vs arwynebol;

Dilys vs Annilys; Anweladwy vs gweladwy

Yr her yw bod arwynebol weithiau'n cael ei weld fel chwilio am sylw, ond dylai unrhyw hunan-niwed cael ei ystyried yn ddifrifol.

Themâu allweddol am ddeall hunan-niweidio:

Goroesiad: Gwrthwynebiad, gwrthdaro swydd a thryblith

Arwyddo: Defodau perthynas, atgyweirio perthynas

Diogelwch: Gallech chi fy nghadw yn ddiogel? A diogel emosiynol

"Gall rhai pobl ifanc defnyddio hunan-niweidio yn dilyn digwyddiad i ddangos bod angen cymorth arnynt. Gall fod yn fodd o brofi perthnasoedd - profi os bydd gofalwr yn dangos magwraeth a chadw nhw'n ddiogel"

Strategaethau Rheolaeth:

​​Mae gofalwyr yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth o hunan-niweidio wedi hysbysu'n gymdeithasol, sef am berthnasoedd, yn hytrach na'r dynesiad bio-meddygol o glinigwyr.

Mae hyn yn cynnwys datblygu perthnasoedd diogel ac ymddiried; perthnasoedd sy'n agor yn emosiynol ac ar gael; derbyniad o'i le yn y system gofal.

"Mae angen i ni roi mwy o sylw ar sut mae grwpiau gwahanol yn ddeall yr achosion o hunan-niweidio a sut mae'n hysbysu ymarfer"

Trafodaeth Gweithdy

Sut ydym ni'n atal/rheoli hunan-niweidio a hunanladdiad rheng blant a phobl ifanc gyda phrofiad o ofal ar hyn o bryd? Beth yw'r heriau gyda'r dulliau cyfredol?

"Rhannu gwybodaeth"

“cynllun diogelwch”

“Dod ynghyd i rannu pryder - gweithio ynghyd cydweithfa"

“Craidd holl dyfu i fyny yw perthnasoedd, mae gofalwyr yn chwarae swydd enfawr yn hyn”

“Rydym ni'n brwydro tan oedd nid canolbwyntio ar ataliaeth”

Ffyrdd ymlaen?

“Ystyried ffactorau cymdeithasol, deall hunan-niweidio yn nhermau perthnasoedd.”

“Asesiadau risg realistig, dim trin plant yn wahanol.”

“Edrych ar dechnoleg neu appiau newydd a gall cael ei ddefnyddio i gefnogi pobl ifanc. Cyfathrebwch gyda nhw yn fodd lle maen nhw'n gyfforddus. Dim gwastad yn disgwyl i blant a phobl ifanc i gydffurfio i brosesau oedolyn.”

“Nid yw ffurfioldeb pob amser yn gweithio, rydym ni'n clywed mwy wrth bobl ifanc pan yn y car neu mas am dro, nid mewn cyfarfodydd arolwg ffurfiol.”

“Mae yna wagle enfawr yng nghymorth ar gyfer gofalwyr carennydd.”

Sut mae gofalwyr yn gweithio gyda phobl broffesiynol gofal cymdeithasol ac iechyd i reoli ac atal hunan-niwed, a sut gall gweithio rhyngbroffesiynol cyfredol cael ei wella?

Rhedwyd y sesiwn olaf gan Stephen Jennings, yn drafod ei ganfyddiadau ymchwil. Trafododd Stephen y profiadau o ofalwyr maeth a phreswyl yn gweithio gyda phobl broffesiynol eraill i reoli ac atal hunan-niweidio.

Y prif bwyntiau wedi cyflwyno:

  • Y canfyddiadau o adnabyddiaeth arbenigol: Roedd gan ofalwyr teimladau cymysg am arbenigedd, lle roedden nhw'n naill ai gohirio neu ddadlau'r adnabyddiaeth ddamcaniaethol o glinigwyr. Darparwyd clinigwyr safbwyntiau arallddewisol ar arbenigedd wedi seilio o gwmpas cyfarwyddineb.

  • Teimlo ar yr ymylon o fewn timau rhyngbroffesiynol: Teimlodd gofalwyr bod ei gyfraniadau'n aml ddim wedi gwerthfawrogi neu adnabod.

  • Profiad o stigma: Roedd anghenion cymhleth pobl ifanc yn aml yn gadael nhw a'r gofalwr wedi stigmateiddio yn ymwelon ysbyty ar ôl hunan-niweidio

  • Cyfrifon cadarnhaol, lle mae cydberthynas wedi cael ei sefydlu gyda'r bobl broffesiynol eraill wedi cysylltu: Lle'r oedd gofalwyr yn gallu dangos bod ganddyn nhw'r arbenigedd a chyfraniad gwerthfawr i'w wneud, arweiniodd hyn i weithio cadarnhaol yn nhimoedd proffesiynol, ac roedd hyn yn aml yn ganlyniad o berthnasoedd hirach dymor.

​​Gorffennwyd y sesiwn gan feddwl am rhai pwyntiau olaf. Mae gofalwyr yn gwneud cyfraniad penodol yn nhermau atal a rheoli hunan-niweidio, a dylen nhw gael llais a chyfle i gyfrannu tuag at ddewisiadau sy'n effeithio nhw maent yn gofalu amdano. Mae gofalwyr maeth a phreswyl yn gweld eu hunain yn bobl broffesiynol, a dylai safbwyntiau nhw cael ei ystyried fel hynny gan eraill yn gweithio yn y timau yma. Gwelwyd naill ai cymwysterau ffurfiol neu gynyddiad statws anffurfiol ar gyfer gofalwyr fel moddau posib o wella rheolaeth ac ataliaeth hunan-niweidio mewn timau rhyngbroffesiynol.

​​Galluogodd y gweithdy rhai trafodaethau diddorol ar strategaethau proffesiynol cyfredol y mynychwyr a gosododd yr ymchwil cwestiynau diddorol sydd angen cael ei ystyried yn ymarfer. Daeth y cynhwysiad o brofiad wedi byw gan ofalwr maeth yr holl bethau cadarnhaol, heriau a gwirioneddau o ofalu am blant neu bobl ifanc gydag anghenion cymhleth. Gwnaeth egwyddori canfyddiadau'r ymchwil mewn storiâu uniongyrchol ac roeddwn i wedi ei swyno gan yn llwyr. Roedd yn fraint clywed a dysgu wrth y profiadau yma.

Cyflwyniadau

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page