Miloedd mwy o gofalwyr cymdeithasol angen yng Nghymru erbyn 2030
Bydd angen miloedd mwy o bobl yn gweithio mewn swyddi gofal gydag oedolion a phlant erbyn 2030 os ydy am gadw i fyny gyda'r galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth ar gyfer cymunedau ar draws y wlad.I helpu atynnu mwy o bobl i weithio mewn gofal, lansiwyd ymgyrch cenedlaethol newydd heddiw o'r enw WeCare.
Mae'r ymgyrch yn gydweithrediad rhyngom ni a sefydliadau arweiniol sy'n cynrychioli gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, yn ogystal â chyrff cenedlaethol eraill wedi cysylltu â chyngor gyrfa a chwilio am waith.
Mae'n rhan o strategaeth hir tymor i ddatblygu'r gweithluoedd yn y sectorau gofal ac iechyd dros y degawd nesaf, i ddarparu gwasanaeth ansawdd uchel, di-dor i bobl Cymru.
Bydd yr ymgyrch yn amlygu'r ystod o gyfleoedd gyrfa yng ngofal, o warchodwyr plant ac ymarferydd meithrinfa i gydlynyddwyr gofal cartref a rheolwyr cartrefi gofal.
Wrth i fwy o bobl Cymru byw yn hirach, bydd gan fwy o bobl anghenion penodol sydd angen cymorth tu fewn a thu fas y cartref. Mae tafluniadau'n awgrymu bydd angen tua 20,000 mwy o gyflogeion dros y 10 mlynedd nesaf [1] i ateb galwadau cynyddol y boblogaeth.
Ar hyn o bryd, mae tua un ym mhob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio yng ngofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant (tua 113,000 o bobl), yn gwneud yn gyflogwr mwy na'r NHS. Ond mae'r ardal yma o waith dal yn tyfu.
Mae'r ymgyrch WeCare yn amcan dangos yr ystod o swyddi a chyfleoedd cynyddiad gyrfa sydd ar gael. Gan ddefnyddio gweithwyr gofal go iawn, mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar yr heriau maen nhw'n wynebu, yn ogystal â beth sydd yn gwneud ei waith nhw'n wobrwyol ac yn werth chweil.
Mae Aled Burkitt o Sir Fynwy yn gweithio fel gweithiwr gofal a chymorth ar gyfer pobl sydd yn byw gyda dementia. Mae'n dweud: "Roeddwn i'n arfer gweithio oriau anghymdeithasol fel pen-cogydd. Ond pan gafodd fy mab ei eni, roeddwn i angen rhywbeth gyda mwy o hyblygedd.
"Mae gan fy nhad-cu dementia a gwelais sut roedd ei ofalwyr ef yn cefnogi fo a'r bond roedd ganddyn nhw. Meddyliais i fyddai'n dda yn y swydd yna a nawr rydw i'n cefnogi pobl yn y gymuned sy'n byw gyda dementia.
"Mae'n anodd ambell waith. Mae i gyd amdano adeiladu perthnasoedd a gweithio allan sut allech chi gynyddu ymddiried. Ond mae cerdded i mewn i'r ymweliad cyntaf o'r diwrnod i weld gwên fawr ar wynebau’r bobl rydw i'n cefnogi gwerth y byd."Mae Amanda Calloway wedi bod yn gweithio fel gofalwr plant am 12 mlynedd. Mae'n dweud: "Roeddwn i arfer gweithio mewn bancio, mewn swydd eithaf ingol, ond ar ôl cael fy mhlant, dewisais i edrych mewn i ofalu plant dros dro."Deuddeg mlynedd wedyn rydw i dal yn gwneud o. Mae wedi galluogi i mi gyrchu addysg ar hyd rhedeg fy musnes a gan rydw i'n gweithio o'r cartref, mae'n ddigon hyblyg i ffitio o gwmpas fy mywyd.
"Rydw i'n mwynhau rhedeg a bod tu allan, felly rydw i'n mynd a'r plant i'r warchodfa natur, y goedwig neu'r traeth mor aml â phosib. Mae'n yrfa wobrwyol, er ei fod yn waith anodd. Mae cael y cyfle i siapi ddyfodol bywydau plant yn arbennig."
Dwedodd y Dirprwy Gweinidog ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Julie Morgan:
"Yng Nghymru, rydym ni'n ffodus i gael tîm o bobl broffesiynol gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofalwyr plant ymroddgar ac ymroddedig iawn sydd yn mynd uwchlaw a thu hwnt pob dydd. O ofalu a chefnogi ein plant ifancaf i ddatblygu a ffynnu, i ddarparu cymorth a gofal tosturiol i oedolion a phobl hyn, maen nhw'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Ond mae angen mwy o bobl i ystyried y gyrfaoedd gwobrwyol iawn yma.
"Dyna pam rydw i wrth fy modd i gefnogi'r ymgyrch WeCare newydd. Mae wedi cael ei ddylunio i arddangos y cyfleoedd gall y sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofalwyr plant cynnig nhw sydd gan y sgiliau gofalu ac ansoddau cywir a'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw i helpant nhw ddatblygu a maethu ei sgiliau i gefnogi'r bobl maen nhw'n helpi fyw bywydau llawn ac actif."Rydw i'n ddiolchgar i Ofal Cymdeithasol Cymru a'i phartneriaid, yn enwedig gofalwyr cymdeithasol sydd wedi rhannu ei brofiadau, am ei waith ar yr ymgyrch yma. Rydw i'n gobeithio bydd storiâu nhw'n ysbrydoli pobl i ddod yn genhedlaeth newydd ni o ofalwyr, ymarferydd gofal, gofalwyr plant a chyfnerthwyr gofal.
Dwedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: "Yng Nghymru, mae tua 90,000 o bobl yn gweithio mewn gofal cymdeithasol, tra bod 23,000 o bobl yn gweithio yn flynyddoedd cynnar a gofal plant. Er hyn, mae dal angen mwy o bobl os ydyn ni mynd i gwrdd ag anghenion a disgwyliadau cymdeithas dros y 10 mlynedd nesaf.
"Gall gweithio mewn gwaith cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant bod yn heriol, ond mae hefyd yn werth chweil yn enfawr. Mae'r ymgyrch WeCare wedi cael ei ddatblygu i atynnu'r bobl gywir i gefnogi rhai o'r aelodau mwyaf agor i niwed yn ein cymuned a helpi ysbrydoli'r genedl nesaf.
"Mae yna ystod o swyddi ar gael yn gweithio gydag oedolion a phlant, yn ogystal â chyfleoedd i ennill cymwysterau ar y swydd a chynyddu gyrfaoedd. Mae cymwysterau newydd yng ngofal iechyd, cymdeithasol a gofal plant yn cael ei lansio o fis Medi blwyddyn yma ac mae'r ymgyrch yma'n rhan o blan eangach i sicrhau bod gennym ni gweithlu ar draws gwasanaethau gofal ac iechyd a fydd yn cwrdd anghenion dyfodol pobl Cymru."
Am fwy o wybodaeth am rhai o'r swyddi sydd ar gael ac i weld esiamplau o bobl go iawn sydd yn gweithio yng Nghymru a'r rhai maen nhw'n cefnogi, ymwelwch â WeCare.wales. Bydd y gwefan yma'n cael ei diweddaru'n aml, gyda manylion pellach a gwybodaeth ddefnyddiol.
[1] Wedi seilio ar astudiaeth 'The size and structure by Skills for Care' a ragolygodd bydd angen cynnydd o rhwng 21 a 44 % o weithwyr gofal cymdeithasol oedolion erbyn 2030.