Rhoi gwybodaeth am wasanaethau lleol yn nwylo staff rheng flaen fel CHI…
- Jodie Phillips
- Nov 8, 2019
- 1 min read

Mae cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol, Cefnogi Trydydd Sector Cymru a’r GIG yng Nghymru yn dod â gwybodaeth ynghyd o Dewis Cymru, Infoengine a chyfeiriaduron adnoddau Galw Iechyd Cymru i greu un Ap sengl, all-lein i broffesiynolion rheng flaen ledled Cymru.
Mae’r Ap, ‘Iechyd a Llesiant Cymru’, ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig â cyfeiriadau e-bost cyrff derbyniol ac yn cynnig mynediad i fanylion gwasanaethau a gwybodaeth gyswllt am fwy na 10,500 o sefydliadau, grwpiau cymunedol a gwasanaethau lleol a chenedlaethol.
Does dim angen cysylltiad â’r we i’w ddefnyddio o ddydd i ddydd. Ar ôl ei lawrlwytho, mae’r Ap yn procio’r defnyddiwr i ddiweddaru’r wybodaeth bob hyn a hyn i sicrhau ei bod yn aros yn gyfredol.

Offeryn delfrydol am…..
Nyrsys ardal, Ymwelwyr iechyd, Gweithwyr cymdeithasol, Gweithwyr ieuenctid, Heddweision, Cysylltwyr cymunedol, Presgripsiynwyr cymdeithasol, ac unrhyw staff eraill yn y gymuned.
Gall defnyddwyr ‘leoleiddio’ gwybodaeth am eu hardal nhw drwy lawrlwytho dim ond gwybodaeth am eu hardal leol.
Mae cyfleuster chwilio grymus yn golygu y gall defnyddwyr chwilio am adnoddau yn ôl allweddair, categori, awdurdod lleol a/neu ardal leol, a ‘rhannu’r’ wybodaeth ganlyniadol drwy’r cymwysiadau symudol arferol fel e-bost, neges destun, Facebook, Messenger etc.
Hefyd gall defnyddwyr ‘ddangos’ neu ‘guddio’ mwy na 900 o adnoddau cenedlaethol a gynhwysir yn yr Ap yn ddi-ofyn. Mae’r Ap yn gwbl ddwyieithog ac yn gydnaws ag Android ac iOS.
I ddod o hyd i’r Ap a’i lawrlwytho, ewch i’r App store neu Google Play a chwilio am ‘Iechyd a Llesiant Cymru’. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost gwaith i gofrestru.
Gallwch chi gyrchu’r cyfeiriadur a rennir hefyd drwy fynd i www.dewis.cymru
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Jodie Phillips (jodie.phillips@data.cymru)

コメント