top of page

‘Eich Bywyd Ar-lein’ a ‘Cadw Eich Hun yn Ddiogel Ar-lein’

Mae gennym rifynnau arbennig newydd o’r cylchgrawn i bobl ifanc, Ffynnu – ‘Eich Bywyd Ar-lein’ a ‘Cadw Eich Hun yn Ddiogel Ar-lein’.

Y llynedd, gwnaeth Rhwydwaith Maethu Cymru gwrdd â phobl ifanc o Gymru a gweithio gyda nhw i glywed eu barn am y byd digidol a sut i gadw’n ddiogel ar-lein.

Rhannodd y bobl ifanc eu harbenigedd a’u gwybodaeth gyda ni a helpodd i ddatblygu’r ddau rifyn diweddaraf. Rydym am ddiolch yn fawr i’r rhai hynny a gymerodd ran – NYAS Caerphilly Shout Out; Fairwater Bright Sparks; Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Caerdydd a Voices from Care Cymru.

Nod y ddau gylchgrawn yw helpu pobl ifanc mewn gofal i ystyried sut y maen nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol, y pethau cadarnhaol a’r peryglon, wrth edrych hefyd ar sut y gallant gefnogi eu hunain a’i gilydd i aros yn ddiogel a gofalu am eu lles ar-lein. Mae’r rhifynnau newydd ar gael am ddim yma. Rhannwch nhw gyda’ch tîm, eich cysylltiadau a’r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw.

Eich Bywyd Ar-lein – English / Cymraeg

Cadw Eich Hun yn Ddiogel Ar-lein – English / Cymraeg

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Ffynnu yn 2005 ac ers hynny mae wedi bod yn rhoi gwybodaeth, cymorth ac arweiniad i blant a phobl ifanc sydd mewn gofal maeth ledled Cymru. Mae’r cylchgrawn yn rhoi platfform safonol sy’n grymuso pobl ifanc i ddweud eu dweud ac i fynegi eu barn ar yr hyn sy’n bwysig iddynt. Ewch i’r wefan yma i weld rhifynnau blaenorol Ffynnu.

Rhwydwaith Maethu Cymru

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Charlotte.Wooders@fostering.net

Efallai y bydd hefyd gennych ddiddordeb yn y blogiau cysylltiedig hyn am bobl ifanc ar-lein;

Dr Cindy Corliss

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page