#NegeseuoniWeithwyrCymdeithasol – Ffilm a grëwyd gan bobl ifanc â phrofiad o ofal
- Dawn Mannay, Rachel Vaughan
- Apr 1, 2020
- 2 min read
Gwnaethom weithio gyda grŵp o bobl ifanc mewn gofal a ddaeth i brosiect a gynhaliwyd gan Sefydliad Roots Cymru a Phartneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru – Prifysgol Abertawe i greu’r ffilm hon. Mae’r ffilm yn cynrychioli’r negeseuon allweddol yr oedd pobl ifanc eisiau eu rhannu gyda gweithwyr cymdeithasol.
Mae’r grŵp yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cynnig y cyfle i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal gwrdd â’i gilydd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol, cyfleoedd addysgol ac ystod o weithgareddau. Ym mis Ionawr a Chwefror 2019, gwnaethom weithio gyda’r grŵp i greu ein ffilm gyntaf ar y cyd sef #FromYoungPeopleForYoungPeople – Find Your Tribe.
Yn ystod haf 2019, gwnaethom gwrdd eto i feddwl am ba negeseuon eraill a oedd yn bwysig a phwy a ddylai glywed y negeseuon hyn. Gwnaethom ddechrau drwy feddwl am syniadau a phenderfynu ar y prif negeseuon, yna aethom ati i sgriptio a chreu elfennau gweledol ar gyfer y ffilm. Gwnaethom ddefnyddio byrddau stori i geisio cyfuno syniadau'r grŵp ac yna buom yn arbrofi wrth ddylunio a defnyddio ‘fuzzy felts’.
Defnyddiwyd y delweddau gwreiddiol a wnaed gan y grŵp fel sail i'r animeiddiad ffilm, i ledaenu’r negeseuon y mae'r bobl ifanc am eu rhannu gyda chymorth Like an Egg. Cafodd y negeseuon hyn eu creu gan bobl ifanc ar sail eu profiadau nhw. Mae’r ffilm yn cynrychioli eu syniadau am sut yr hoffent weithio gyda gweithwyr cymdeithasol yn y dyfodol. Dyma eu #negeseuoniweithwyrcymdeithasol. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r ffilm.
Gwyliwch y ffilm yma
Dawn Mannay - School of Social Sciences, Cardiff University @dawnmannay
Rachael Vaughan – CASCADE: Children’s Social Care Research and Development Centre, Cardiff University @VaughanRach
Helen Davies - South West Wales Reaching Wider Partnership - Swansea University @ReachingWiderSU
Emma Jones - Roots Foundation Wales @RootsWales
Comments