#CareDay18 - Plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o ofal yn dathlu eu hawliau
- Voices From Care Cymru
- Feb 15, 2018
- 2 min read

Cynhelir y Diwrnod Gofal ar 16 Chwefror. Dyma ddathliad mwyaf y byd o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae profiad o ofal yn cynnwys plant a phobl ifanc sy'n cael gofal, neu oedd yn arfer cael gofal, gan rieni neu aelodau eraill o'r teulu gyda chefnogaeth gweithwyr cymdeithasol; neu gan ofalwyr maeth.
Mae hefyd yn cynnwys plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi plant ac unedau preswyl.
Nod y Diwrnod Gofal yw rhoi terfyn ar y stigma a wynebir gan blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o'r system ofal.
Caiff y dathliadau yng Nghymru eu harwain gan Voices From Care Cymru (VFCC). Diben y corff hwn yw cynnig llais annibynnol er mwyn gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o ofal.
Yn ystod y dydd, bydd pobl ifanc yn cael cinio gyda David Melding, Gweinidog y Cynulliad a chadeirydd y Grŵp Cynghori Gweinidogol, i rannu eu syniadau, eu straeon a'u cwestiynau.
Bydd dathliadau’r Teulu Gofal yn ymestyn i ogledd Cymru lle bydd staff VFCC yn cynnal grŵp gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Yn ystod y dathliadau, bydd VFCC yn dangos eu fideo ysgafn am y tro cyntaf am 'Gwestiynau na ddylech eu gofyn'. Mae’n canolbwyntio ar gwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a sut maen nhw'n teimlo amdanynt.
Bydd VFCC yn goleuo Neuadd y Ddinas Caerdydd hefyd o 6pm i nodi'r achlysur.
Gallwch gadw llygad ar ddigwyddiadau’r diwrnod ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn # CareDay18 a gweld beth mae VFCC a'i sefydliadau cysylltiedig ledled y DU ac Iwerddon yn ei wneud i ddathlu'r teulu gofal.
Mae Diwrnod Gofal yn fenter ar y cyd rhwng elusennau plant ledled y DU dan Gynghrair 5 Cenedl 1 Llais (5 Nations 1 Voice Alliance). Who Cares? Scotland, Become yn Lloegr, YPYPIC yng Ngogledd Iwerddon, EPIC yn Iwerddon a Voices from Care yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan cysylltwch â Tim drwy ffonio 02920 451431 neu bsm@vfcc.org.uk
Comments