top of page

Cyfri Tadau i mewn - sut gall gweithwyr cymdeithasol adeiladu gwell perthnasoedd gyda thadau sydd gy

Cyflwyniad

Cafodd y gweithdy yma ei gyflwyno gan Dr Georgia Philip o’r Canolfan ar gyfer Ymchwil ar Blant a Theuluoedd (CRCF), wedi seilio yn Brifysgol East Anglia (UEA). Esboniodd Georgia ei bod hi wedi derbyn hyfforddiant fel cymdeithasegwr ac mae ei hymchwil hi wedi canolbwyntio ar dadau, teuluoedd ac ymgysylltiad tadau. Yn enwedig gweithiodd ar ddau brosiect mawr, am brofiadau tadau o amddiffyniad plant, ac o drafodion gofal rheolaidd. Amlygodd dau brosiect ymchwil ac adroddiadau wedi ariannu gan y Sylfaen Nuffield sydd yn benodol i’r gweithdy:

Briffio Ymchwil - Cyfri Tadau i Mewn: Deall ystyriaeth dynion o’r system amddiffyniad plant gan CRCF yn UEA

Croesawodd Georgia cynulleidfa amrywiol o ystod o gefndiroedd (statudol, trydydd sector a grwpiau ymgyrch) a gofynnodd am safbwyntiau gwahanol a phrofiadau i gael ei wrando ar a pharchu, yn paratoi’r sefyllfa ar gyfer gweithdy a thrafodaeth ddiddorol.

Gweithgaredd Grŵp 1: Pam ydy’r ymgysylltiad ac ymrwymiad o’r tadau yn waith cymdeithasol mor anodd?

Gofynnodd Georgia i’r cyfranogwyr i weithio mewn grwpiau i feddwl am y broblem o naill ai safbwynt gweithiwr cymdeithasol neu safbwynt tad. Yn enwedig, pam ydy’r ymgysylltiad o dadau dal i’w weld yn broblem yn waith cymdeithasol? Beth ydy’r heriau i adeiladau perthnasoedd gyda dynion?

Cafodd yr heriau canlynol ei nodi:

  • Efallai'r arfer i dadau yw cael grym yn y teulu, lle mae llawer o weithwyr cymdeithasol yn fenywod.

  • Mae’n fwy anodd i weithwyr cymdeithasol i gysylltu â’r tad os nad yw’n byw at y cyfeiriad cartrefol.

  • Nad yw gweithwyr cymdeithasol wastad yn gwybod pwy yw’r tad, ond pob tro yn gwybod pwy yw’r fam.

  • Mae adnoddau ar gyfer teuluoedd a rhwydweithiau cymorth yn aml wedi canolbwyntio ar fenywod - grwpiau mam a babi, grwpiau chwarae, cymorth menywod, cymorth lles a.y.b..

  • Syniadau wedi ymwreiddio ar ryw a gofal - nad yw pob tad yn meddwl ei fod yn fusnes nhw neu nad ydyn yn atebol. Mae atebolrwydd yn aml yn broblem allweddol.

  • Mae trais domestig yn fater dadleuol ac yn aml wedi seilio ar ryw.

  • Gall ambell dad teimlo bod y system ond yn canolbwyntio ar y fam. Mae hyn yn fwy anodd eto wrth gyrraedd y system llys

Model Deinameg o ymrwymiad tadau

Cyflwynodd Georgia model i ddangos bod y lefel a llwyddiant o ymrwymiad tadau yn dibynnu ar dair agwedd:

  • Yr amseru o’r cyswllt cyntaf gan weithiwr cymdeithasol

  • Y goddefgarwch a hyblygrwydd o’r dad (gallu i reoli emosiynau a disgwyliadau)

  • Y cyfathrebiad parhaus rhwng y gweithiwr cymdeithasol a’r dad

Ar adegau, mae’r rhwystrau ffisegol a meddyliol o ymrwymo tad yn meddwl bod cyswllt weithiau yn cael ei adael tan fach cyn mynd i’r llys, sydd yna dim yn rhoi’r cyfle realistig i’r tad i roi pethau yn ei le er mwyn bod yn ofalwr y plentyn.

“Pan mae’r ymrwymiad gweithiwr cymdeithasol a thad yn gweithio’n dda, mae’n gallu arwain at adnabyddiaeth gydfuddiannol ac ymrwymiad gweithgar gan y tad, gyda chanlyniadau mwy positif.”

“Pan mae cyfathrebu wedi bod yn oddefol ac yn anaml (e.e. mae’r tad ond yn derbyn y munudau o gyfarfod yn hytrach na chael ei ymrwymo yn actif) gall arwain at ddiffyg ymddiriaeth i’r ddwy blaid a’r gwaharddiad strategol o’r tad.”

Yn ddiddorol, mae gweithwyr cymdeithasol a thadau yn aml yn defnyddio’r un eirfa i ddisgrifio ei gilydd - ‘anodd i gysylltu’, ‘byth yn fy ngalw yn ôl’

Gweithgaredd grŵp 2: Taclo rhwystrau i newid

Mae yna rwystrau strwythurol a gweithdrefnol i gynhwysiant, o​

​nd dau fater allweddol sy’n cael ei godi yn rheolaidd yw mamau yn ‘porth gadw’ a thadau yn ‘optio allan’. Gofynnodd Georgia'r cyfranogwyr yn eu grwpiau i drafod sut gall gweithwyr cymdeithasol torri lawr y rhwystrau yma ac annog newid. Trafododd y grŵp ymunais i'r mater o weithwyr cymdeithasol yn torri lawr rhwystrau gyda thadau fel yma:

  • Cydnabod bod tadau efallai yn strancio i gael y geiriau i esbonio eu teimladau a meddyliau

  • Dangos eich bod yn agored i wrando a ddeall. Mae’n cymryd dewrder i fod yn onest

  • Ailddatgan pwysigrwydd tad i blentyn

  • Dylai ymrwymiad tadau bod yn rhan o oruchwyliaeth.

  • Sesiynau hyfforddiant i staff, yn enwedig rhai sydd wedi cymwys yn ddiweddar.

  • Darganfod y balans rhwng dynesau wedi seilio ar gryfderau a gweithredu cadarn.

Cafodd ei ailddatgan bod y fwyaf cynnar mae tad yn cael ei ymrwymo'r gorau, ond mae angen sgiliau ar weithwyr cymdeithasol i wneud hyn. Mae’n gallu bod yn anodd herio neu ofyn cwestiynau anodd (tan fod amddiffyniad plentyn neu drafodaethau gofal yn gwneud hyn yn angenrheidiol). Mae’r rhiant dibreswyl yn aml ddim yn cael ei gwestiynu. Mae hyn yn rhwystr i gyfathrebu yn syth a gall arwain at ragdybiaethau am ryw a'r lefel o gyswllt.

Offer ar gyfer meddwl a gwneud

Cyflwynodd Georgia tri syniad neu offer dylai gweithwyr cymdeithasol meddwl am yn ystod ymarfer: sensitifrwydd rhyw a chwestiynu beirniadol; astudio ‘asiantaeth’ dynion fel tadau; a bod yn wyliadwrus i borth gadw.

Materion rhyw

Anogodd Georgia'r gweithwyr cymdeithasol i feddwl yn feirniadol am rieni ar sail rhyw, gyda phrofiadau gwahanol, disgwyliadau, cosbau, gwobrau, cyfleoedd a rhwystrau. Mewn amddiffyniad plant gall rhagdybiaethau cael ei wneud a'u adael heb gwestiynu. Mae dynion yn sensitif i bryd mae gwahaniaeth rhyw yn arwain at annhegwch e.e. delio gyda honiadau, dim cael ei ymrwymo'r un faint a mamau, a'r pwyslais o gymorth sy’n cael ei rhoi i famau. Yn bellach, mae achosion amddiffyniad plant yn un o’r achosion anaml pan mae’r rhiant sy’n gweithio at anfantais, oherwydd gollen nhw cael ei weld fel rhywun heb y gallu i ddarparu gofal amser cyflawn i’r plentyn. Dangoswyd hyn trwy fideo o dad a oedd yn credu mewn gweithio er lles y teulu, ond roedd hyn wedi gweithio yn ei herbyn yn ystod trafodaethau llys. Am y rhesymau yma, mae angen i ni feddwl yn feirniadol a chreu dynesiad mwy sensitif i ryw yn waith achos. Mae hyn yn allweddol i adeiladu gwell perthnasoedd gyda thadau a chefnogi sgiliau rhieni dynion. (Cyfri Tadau i Mewn - pennod 11)

Asiantaeth Tadau

Mae teimlad o 'asiantaeth' yn ymwneud a hyder a gallu tad i weithredu neu wneud rhywbeth, sy'n effeithio sut mae tad yn dod ar draws ac yn ymgysylltu gyda gweithwyr cymdeithasol ac amddiffyniad plant. Esboniodd Georgia bod yr agweddau allweddol o asiantaeth yw:

  • Dyfalbarhad - i barhau gyda phroses a'i holl heriau

  • Teimlad o hawl - y gred bod hi amdanyn nhw a'r plentyn a'r gallu i herio a chynnal rhan yn y broses

  • Ansawdd yr asiantaeth - y gallu i fod yn adlewyrchol a'r lefel o hyder a hunan-barch.

  • Perthynas gyda phlentyn - hanes y berthynas, lefel o gyswllt a gofal, y bond canfydded gyda'r plentyn.

Rhannodd Georgia sain i ddangos y syniad yma, yn cynnwys dyn ac roedd wedi brwydro dros ei blant a dyfalbarhau gyda phryderon am y fam tan dderbyniodd gofal o'i ferch yn y diwedd. Yn y pen draw, roedd ei lwyddiant lawr i'w dyfalbarhad, gwrthodiad i dynnu nôl, a gallu i adlewyrchu'n feirniadol ar ei dynesiad ei hun - yn ogystal â gweithiwr cymdeithasol a dyfalbarhaodd gyda fo er berthynas anodd. Gwers allweddol yw ei fod yn aml yn anodd i weithiwr cymdeithasol i gael y gwir oherwydd ‘mudslinging’ gan rieni.

Porth gadw

Y tro yma, yn ymwneud a phorth gadw trefniadol, rhaid i weithwyr cymdeithasol bod yn ymwybodol o adegau 'agor porth' a 'chau porth' wedi creu gan y broses amddiffyniad plentyn. Mae ffactorau agor porth, er enghraifft, yn gyfleoedd wedi creu i gysylltu gyda thadau yng nghyfnodau cynnar. Ffactorau cau porth yw lle mae cyfleoedd gweithdrefnol yn cael ei golli, er enghraifft, i gynnwys tadau'n rhagweithiol a gwerthuso beth gall ei ymrwymiad i fod.

"Gall adegau agor porth a chau porth cael effaith arwyddocaol ar gyfeiriad achos - weithiau mae'r rhain yn weithdrefnol ond weithiau maen nhw wedi cysylltu i agweddau neu dybiaethau am ddynion a sgiliau rhieni"

Gweithgaredd grŵp 3: Beirniadaeth o asiantaeth tad

Seiliwyd trafodaeth grŵp terfynol ar adroddiad wedi ysgrifennu gan dad o ei gyfranogiad yn amddiffyniad plentyn. Dangoswyd sut roedd y canlyniad nid ond wedi effeithio gan ei dyfalbarhad a phenderfyniad i gadw cyswllt gyda'i blant, ond hefyd ei gyrchiad i lety. Y pwynt troi olaf oedd pan gadarnhaodd llety addas, a oedd yn ei hwyluso i dderbyn gofal o un plentyn - y canlyniad roedd o wedi brwydro am o'r dechrau. Dangoswyd hefyd bod llety ei hun yn fater wedi seilio ar ryw.

Meddyliau Olaf

Dangoswyd gweithdy Georgia'r cymhlethdod anhygoel o weithio gyda thadau yn amddiffyniad plant. Dangoswyd sut mae ymrwymiad llwyddiannus yn dibynnu ar sgiliau gweithwyr cymdeithasol i feddwl yn feirniadol a defnyddio ystod o offer yn sensitif ac mewn ffasiwn amserol, i roi'r cyfle gorau posib o newid o ymrwymiad positif i dadau. Mae hefyd yn dibynnu ar allu tad a hyder i ddyfalbarhau gyda'r broses amddiffyniad plant, er gwaethaf yr heriau. Yn bwysig, rhaid i weithdrefnau trefniadol effeithiol, yn cynnwys hyfforddiant a goruchwyliaeth, sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer ymrwymiad tadau yn cael ei ddarparu trwy gydol y broses.

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page