top of page

Canfod ac ymateb i esgeulustod plant yn ysgolion: darganfyddiadau allweddol a negeseuson ar gyfer ym

Ar Ddydd Mawrth 19 Mawrth, cyflwynodd Dr Victoria Sharley y darganfyddiadau o'u PhD at y gweithdy ExChange, 'Esgeulustod Plant yn Ysgolion'. Archwiliodd amcanion yr astudiaeth, eu dyluniad a dulliau, heriau yng nghasgliad data, darganfyddiadau a negeseuon allweddol ar gyfer ymarfer.

Dangoswyd cefndir a chyd-destun yr astudiaeth bod yna:

  • 1090 plentyn wedi cofrestri am esgeulustod a 120 bellach wedi cofrestri am esgeulustod gyda chamdriniaeth ffisegol a/neu rywiol yn 2017

  • Mae esgeulustod yn aml yn gronig, sydd yn gallu gwneud yn heriol i'w canfod

  • Gall esgeulustod bod yn aml-dimensiwn; o amrywiaeth o achosion sy'n gwneud yn anodd darparu cymorth.

Gofynnwyd yr astudiaeth tri chwestiwn ymchwil allweddol:

  1. Beth yw ymestyniad cysylltiad ysgolion â chanfod ac ymateb i esgeulustod plant?

  2. Beth yw natur y perthynas rhwng ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol?

  3. Beth yw'r profiadau o staff ysgol o ystod o swyddi gwahanol?

Cymerodd tri Awdurdod Lleol Cymraeg o ardaloedd wahanol ran yn y prosiect ymchwil dull cymysg. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddiad ffeil achos, arsylwad heb gyfranogwr, a chyfweliadau lled-strwythyredig.

Roedd yna heriau amrywiol wrth gasglu data oherwydd y moddau gwahanol roedd data yn cael ei gasglu gan bob awdurdod yn ogystal â data coll neu anghyflawn. Er gwaethaf yr heriau, roedd yna batrymau cyffredin yn y data wedi casglu: roedd yna fwy o fechgyn yn profi esgeulustod, esgeulustod addysgiadol a ffisegol oedd y fwyaf aml, ac roedd y rhan fwyaf o blant oedd yn profi esgeulustod o oedran ysgol gynradd. Roedd 45% o fyfyrwyr wedi cyfeirio yn profi esgeulustod ffisegol.

Roedd gan y mynychwyr y cyfle i amlygu a meddwl nôl ar brofiadau eu hun ar y cwestiynau canlynol:

  1. Ydy hyn yn awgrymu bod staff ysgol gyda llai ymrwymiad oherwydd swydd arweiniol/pŵer canfyddedig gwasanaethau cymdeithasol unwaith mae cyfeiriad wedi ei gwneud?

  2. Neu ydy'n awgrymu trefniant awdurdod lleol gwael o gwmpas trefnu cyfarfodydd a chyfathrebiad gydag asiantaethau allanol?

Trafododd ein byrddau amrywiol y cwestiynau canlynol a'r pwysigrwydd o gyfranogaeth a chydweithrediad aml-asiantaeth. Rhai o'r negeseuon allweddol:

  • Mae cyfathrebu'n allweddol!

  • Mae angen i ysgolion deall gweithwyr cymdeithasol a vice versa

  • Beth sydd angen athrawon gwybod a beth all gwasanaethau cymdeithasol cynnig cynorthwyo?

Ar gyfer y cyfweliadau lled-strwythuredig, cafwyd staff o ysgolion ei ddewis o ystod amrywiol o gyflogeion, yn cynnwys rheolaeth, staff addysgu, gofal bugeilaidd, a staff cymorth. Canolbwyntiodd y cyfweliadau ar berthnasoedd, esgeulustod plant, adnabyddiaeth a chymorth a chanfyddiadau swydd.

Cafodd y data ei astudio'n thematig ac ymddangosodd tri lefel o wahaniaeth:

  1. Rhwng ac o fewn ymarfer awdurdod lleol

  2. Rhwng pob maes o gyfrifoldeb

  3. Rhwng ysgolion unigol

Roedd yna 5 thema gyffredin

  1. Y "gwelededd" o esgeulustod

  2. Y natur o berthnasoedd proffesiynol

  3. Grym a stigma wedi dal gan wasanaethau cymdeithasol

  4. Rheolau ac arferion dros ddiogelu

  5. Diffyg hyder proffesiynol o staff ysgol

Gwelededd esgeulustod oedd un o'r prif themâu. Teimlwyd ei fod angen cael ei "weld" neu fod yn rhywbeth "cyffyrddadwy" er mwyn gwneud cyfeireb i gyfreithloni pryderon. Sut allwn ni gymalu'r "teimlad perfeddyn" yna a gall rhywun cael wrth ddelio gyda materion o esgeulustod? Roedd yna hefyd bryder am y diwylliant o adrodd a gwneud cyfeirebau diogelu i wasanaethau cymdeithasol.

Ymgymerwyd ail drafodaeth wrth y byrddau, yn galluogi cyfranogwyr i siarad am y gwahaniaethau rhwng ysgol ac ymarfer gwaith cymdeithasol.

Darganfyddid amrywiadau mewn ymarfer ysgol arwyddocaol ar draws sawl ffactor: gweithio o blaid/adweithiol, dysgu a hyfforddiant a pherthnasoedd gyda theuluoedd. Darganfyddid bod cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol yn ogystal â'r ansawdd o berthnasoedd yn bwysig.

Amlygodd y canlyniadau yn gyffredinol y cymhlethdod rhwng ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol wrth gyfeirio at y mater o esgeulustod plant. Yn ogystal, mae rhoi ysgolion yng nghanol y gymuned yn allweddol i ymarfer effeithiol. Un canfyddiad allweddol o'r ymchwil oedd bod cael gweithwyr cymdeithasol yn ysgolion yn pontio llawer o fylchau a galluogodd cydweithrediad aml-asiantaeth, gwaith ataliol a hyfforddiant. Yn mynd ymlaen dyma rywbeth ag argymhellir yn gryf.

Am fwy o wybodaeth ar y gweithdy, pwyswch isod i edrych ar yr adnoddau canlynol os gwelwch yn dda:

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page