Canfod ac ymateb i esgeulustod plant yn ysgolion: darganfyddiadau allweddol a negeseuson ar gyfer ym
- Cindy Corliss, cyf. Sophie McLaughlin
- Apr 16, 2019
- 3 min read
Ar Ddydd Mawrth 19 Mawrth, cyflwynodd Dr Victoria Sharley y darganfyddiadau o'u PhD at y gweithdy ExChange, 'Esgeulustod Plant yn Ysgolion'. Archwiliodd amcanion yr astudiaeth, eu dyluniad a dulliau, heriau yng nghasgliad data, darganfyddiadau a negeseuon allweddol ar gyfer ymarfer.

Dangoswyd cefndir a chyd-destun yr astudiaeth bod yna:
1090 plentyn wedi cofrestri am esgeulustod a 120 bellach wedi cofrestri am esgeulustod gyda chamdriniaeth ffisegol a/neu rywiol yn 2017
Mae esgeulustod yn aml yn gronig, sydd yn gallu gwneud yn heriol i'w canfod
Gall esgeulustod bod yn aml-dimensiwn; o amrywiaeth o achosion sy'n gwneud yn anodd darparu cymorth.

Gofynnwyd yr astudiaeth tri chwestiwn ymchwil allweddol:
Beth yw ymestyniad cysylltiad ysgolion â chanfod ac ymateb i esgeulustod plant?
Beth yw natur y perthynas rhwng ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol?
Beth yw'r profiadau o staff ysgol o ystod o swyddi gwahanol?
Cymerodd tri Awdurdod Lleol Cymraeg o ardaloedd wahanol ran yn y prosiect ymchwil dull cymysg. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddiad ffeil achos, arsylwad heb gyfranogwr, a chyfweliadau lled-strwythyredig.

Roedd yna heriau amrywiol wrth gasglu data oherwydd y moddau gwahanol roedd data yn cael ei gasglu gan bob awdurdod yn ogystal â data coll neu anghyflawn. Er gwaethaf yr heriau, roedd yna batrymau cyffredin yn y data wedi casglu: roedd yna fwy o fechgyn yn profi esgeulustod, esgeulustod addysgiadol a ffisegol oedd y fwyaf aml, ac roedd y rhan fwyaf o blant oedd yn profi esgeulustod o oedran ysgol gynradd. Roedd 45% o fyfyrwyr wedi cyfeirio yn profi esgeulustod ffisegol.
Roedd gan y mynychwyr y cyfle i amlygu a meddwl nôl ar brofiadau eu hun ar y cwestiynau canlynol:
Ydy hyn yn awgrymu bod staff ysgol gyda llai ymrwymiad oherwydd swydd arweiniol/pŵer canfyddedig gwasanaethau cymdeithasol unwaith mae cyfeiriad wedi ei gwneud?
Neu ydy'n awgrymu trefniant awdurdod lleol gwael o gwmpas trefnu cyfarfodydd a chyfathrebiad gydag asiantaethau allanol?
Trafododd ein byrddau amrywiol y cwestiynau canlynol a'r pwysigrwydd o gyfranogaeth a chydweithrediad aml-asiantaeth. Rhai o'r negeseuon allweddol:
Mae cyfathrebu'n allweddol!
Mae angen i ysgolion deall gweithwyr cymdeithasol a vice versa
Beth sydd angen athrawon gwybod a beth all gwasanaethau cymdeithasol cynnig cynorthwyo?

Ar gyfer y cyfweliadau lled-strwythuredig, cafwyd staff o ysgolion ei ddewis o ystod amrywiol o gyflogeion, yn cynnwys rheolaeth, staff addysgu, gofal bugeilaidd, a staff cymorth. Canolbwyntiodd y cyfweliadau ar berthnasoedd, esgeulustod plant, adnabyddiaeth a chymorth a chanfyddiadau swydd.
Cafodd y data ei astudio'n thematig ac ymddangosodd tri lefel o wahaniaeth:
Rhwng ac o fewn ymarfer awdurdod lleol
Rhwng pob maes o gyfrifoldeb
Rhwng ysgolion unigol
Roedd yna 5 thema gyffredin
Y "gwelededd" o esgeulustod
Y natur o berthnasoedd proffesiynol
Grym a stigma wedi dal gan wasanaethau cymdeithasol
Rheolau ac arferion dros ddiogelu
Diffyg hyder proffesiynol o staff ysgol
Gwelededd esgeulustod oedd un o'r prif themâu. Teimlwyd ei fod angen cael ei "weld" neu fod yn rhywbeth "cyffyrddadwy" er mwyn gwneud cyfeireb i gyfreithloni pryderon. Sut allwn ni gymalu'r "teimlad perfeddyn" yna a gall rhywun cael wrth ddelio gyda materion o esgeulustod? Roedd yna hefyd bryder am y diwylliant o adrodd a gwneud cyfeirebau diogelu i wasanaethau cymdeithasol.
Ymgymerwyd ail drafodaeth wrth y byrddau, yn galluogi cyfranogwyr i siarad am y gwahaniaethau rhwng ysgol ac ymarfer gwaith cymdeithasol.

Darganfyddid amrywiadau mewn ymarfer ysgol arwyddocaol ar draws sawl ffactor: gweithio o blaid/adweithiol, dysgu a hyfforddiant a pherthnasoedd gyda theuluoedd. Darganfyddid bod cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol yn ogystal â'r ansawdd o berthnasoedd yn bwysig.
Amlygodd y canlyniadau yn gyffredinol y cymhlethdod rhwng ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol wrth gyfeirio at y mater o esgeulustod plant. Yn ogystal, mae rhoi ysgolion yng nghanol y gymuned yn allweddol i ymarfer effeithiol. Un canfyddiad allweddol o'r ymchwil oedd bod cael gweithwyr cymdeithasol yn ysgolion yn pontio llawer o fylchau a galluogodd cydweithrediad aml-asiantaeth, gwaith ataliol a hyfforddiant. Yn mynd ymlaen dyma rywbeth ag argymhellir yn gryf.
Am fwy o wybodaeth ar y gweithdy, pwyswch isod i edrych ar yr adnoddau canlynol os gwelwch yn dda:
- Cyflwyniad Pwynt Pŵer Dr Sharley a rhoddwyd at y gweithdy
- Gosodiad PhD Dr Sharley 'Adnabod ac Ymateb i Esgeulustod Plant yn Ysgolion Yng Nghymru.'
Comentários